Y cicwyr fu'n amlwg yn ystod yr hanner cyntaf gyda chyfraniadau David Skrela a Florian Fritz yn golygu mai'r ymwelwyr oedd yr y blaen 18-12 ar yr egwyl.
Treuliodd Skrela, yn ogystal â prop y Dreigiau Ben Castle, gyfnod yn y gell gosb nail ochr i'r hanner amwr.
Llwyddodd Matthew Jones gyda phedair cic gosb i'r Dreigiau yn yr hanner cyntaf ar ôl cymryd ei le yn y tîm wedi i Ashley Smith fethu prawf ffitrwydd.
Thierry Dusautoir, Maxime Medard a Louis Picamoles groesodd am geisiau i'r Ffrancwyr yn yr ail hanner.
Croeosodd Will Harries gais yn hwyr yn y gêm i'r tîm cartref a droswyd gan Jones ac fe lwyddodd y Dreigiau i rwystro Toulouse rhag sicrhau pwynt bonws.
Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Thomas Cheeseman, Thomas Riley, Aled Brew; Matthew Jones, Wayne Evans (capten); Phil Price, Steve Jones, Ben Castle, Scott Morgan, Robert Sidoli, Danny Lydiate, Gavin Thomas, Andrew Coombs.
Eilyddion: Lloyd Burns, Hugh Gustafson, Pat Palmer, Luke Charteris, Tobey Faletau, Nicky Griffiths, Matt Evans, Rhodri Gomer Davies
Toulouse: M Medard; V Delasau, F Fritz, Y Jauzion, C Heymans; D Skrela, N Vergallo; D Human, W Servat, Y Montes, Y Maestri, R Millo-Chluski, J Bouilhou (capt), T Dusautoir, L Picamoles.
Eilyddion: V Lacombe, J Poux, C Johnston, S Sowerby, B Kelleher, C Poitrenaud, V Clerc, Y Nyanga
Dyfarnwr: Andrew Small (Lloegr)