BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Hydref 2010

Gweilch 27-16 Gwyddelod Llundain

Croesodd Shane Williams a Tommy Bowe am geisiau wrth i'r Gweilch drechu'r tîm ar frig Uwchgynghrair Aviva i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Ewrop y tymor hwn.

Shane Williams
Fe gafodd y Gweilch y dechrau gorau posib gyda Tommy Bowe yn croesi am gais - ei 18fed yn Ewrop - i roi ei dim ar y blaen wedi pedwar munud.

Er i Dan Biggar fethu gyda'r trosiad fe gyfrannodd y maswr ifanc bedair gôl gosb i'r Gweilch yn ystod yr hanner cyntaf.

Fe gafodd diffyg disgyblaeth y Gweilch ei gosbi gyda Ryan Lamb yn llwyddiannus gyda dwy gôl gosb i'r ymwelwyr.

Ar ddechrau'r ail hanner fe groesodd Sailosi Tagicakibau am gais i'r Gwyddelod yn dilyn rhyng-gipiad gyda throsiad llwyddiannus Lamb yn lleihau'r fantais.

Ond roedd ail gais y Gweilch yn wefreiddiol gyda Shane Williams yn croesi yn y gornel wedi cic a chwrs dros 80 llath.

Dyma oedd cais rhif 105 i Williams dros ei glwb a'i wlad ar achlysur ei hanner canfed gêm dros y Gweilch yng Nghwpan Heineken.

Llwyddodd Hook, oedd wedi ymgymryd â'r dyletswyddau cicio wedi i Biggar ymadael a'r maes, gyda'r trosiad cyn i'w gôl gosb sicrhau'r fuddugoliaeth.

Gorffennodd y Gweilch y gêm gyda 14 dyn wedi i Jerry Collins weld y cerdyn melyn gydag wyth munud yn weddill.

Ond roeddynt wedi gwneud digon i ymestyn eu rhediad heb golli yn y gystadleuaeth yn Stadiwm Liberty i bum mlynedd.


Gweilch: Lee Byrne; Tommy Bowe, Andrew Bishop, James Hook, Shane Williams; Dan Biggar, Mike Phillips; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Ryan Jones, Alun Wyn Jones (capt), Jerry Collins, Marty Holah, Jonathan Thomas.
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Craig Mitchell, Ian Gough, Justin Tipuric, Jamie Nutbrown, Gareth Owen, Nikki Walker.

Gwyddelod Llundain: Topsy Ojo; Jonathan Joseph, Seilala Mapusua, Daniel Bowden, Sailosi Tagicakibau; Ryan Lamb, Paul Hodgson; Clarke Dermody (capt), James Buckland, Faan Rautenbach, Nick Kennedy, Bob Casey, Kieran Roche, Chris Hala'ufia, George Stowers.
Eilyddion: David Paice, Dan Murphy, Alex Corbisiero, Matt Garvey, Gary Johnson, Chris Malone, Elvis Seveali'i, Darren Allinson.

Dyfarnwr: Peter Fitzgibbon (Iwerddon).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy