BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 09 Hydref 2010

Toulon 19-14 Gweilch

Gwastraffodd y Gweilch gyfle euraidd i gychwyn eu hymgyrch yng Nghwpan Heineken gyda buddugoliaeth wrth ildio cais gyda phedwar munud i fynd yn Toulon.

Roedd yr ymwelwyr yn edrych yn gyfforddus wrth amddiffyn eu mantais yn dilyn cais Shane Williams wedi 60 munud a thair gôl gosb Dan Biggar.

Ond methodd Biggar ddwy gic eithaf rhwydd at y pyst - gan ychwanegu at y ddau y methodd yn yr hanner cyntaf - a manteisiodd y tîm cartref i'r eithaf wrth i Jonny Wilkinson greu cais i Paul Sackey.

Pwynt bonws am golli o fewn saith pwynt oedd gwobr y Gweilch, ond fe ddylent wedi dychwelyd adref gyda llawer iawn mwy.

gwrandoY Gweilch wedi cael gwers galed, medd Shane Williams

Gwelwyd digon o ymdrech ac ambell i dacl ffyrnig yn yr hanner cyntaf yn Stade Felix-Mayol, ond prin iawn oedd y bylchu a'r chwarae creadigol.

Daeth chwiban y dyfarnwr yn fwyfwy amlwg wrth i'r hanner fynd yn ei flaen, gyda throseddu yn ardal y dacl yn amharu ar unrhyw obaith i weld y gêm yn llifo.

Ciciau at y pyst oedd yr unig opsiwn am bwyntiau, gyda Biggar a Wilkinson yn llwyddo dwywaith ond yn methu dwywaith hefyd.

Methiant hefyd fu ymdrech y ddau mewn safleoedd addawol gyda chiciau adlam.

Roedd hi'n 9-9 wedi 13 munud o'r ail hanner wrth i Wilkinson a Biggar ychwanegu tri phwynt yr un arall, ac yna daeth y fflach o ysbrydoliaeth i roi'r ymwelwyr mewn sefyllfa gref gyda 20 munud i fynd.

Roedd hi'n edrych fod y Gweilch wedi gwastraffu safle ymosodol dda ger llinell gais Toulon wrth i'r bêl gael ei tharo yn ôl at y llinell 22, ond llwyddodd Huw Bennet i fachu'r bêl rydd a sefydlu ryc.

Ac o'r ryc yna, gwelodd Williams fod neb yn gwylio'r ochr dywyll gan gynnig ffordd glir at y llinell gais lawr yr asgell chwith.

Methodd Biggar gyda'r trosiad, a gwastraffodd gyfle arall i ymestyn y fantais o'r un lle dau funud yn ddiweddarach.

Roedd y bwlch i lawr i ddau bwynt pan lwyddodd Wilkinson gyda'i bedwaredd gôl gosb, ac yna daeth y cais i dorri calonnau'r Gweilch.

Cic ddibwys arall roddodd y meddiant yn ôl i Toulon, ac o'r diwedd gwelwyd ychydig o awch yn ymosod y Ffrancwyr.

Roedd amddiffyn y Gweilch wedi ei ymestyn am y tro cyntaf i'r gêm, a doedd neb am ddal Sackey wrth iddo wibio lawr yr asgell dde wedi pas hir Wilkinson.

Coronodd y mewnwr y cyfan gyda throsiad o'r ffin, a dau funud yn ddiweddarach roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wrth i'r dyfarnwr ddefnyddio ei chwiban am y tro olaf.


Toulon: R Lamont; P Sackey, M Kefu, G Messina, B Lapeyre; J Wilkinson, M Henjak; S Taumoepeau, J Orioli, D Kubriashvili, D Schofield, C Samson, O Missoup, G Smith, J Fernandez Lobbe (capt).
Eilyddion: M Ivaldi, B Basteres, M Merabet, T Sourice, T May, C Marienval, L Magnaval, J Suta.

Gweilch: Lee Byrne; Tommy Bowe, Andrew Bishop, James Hook, Shane Williams; Dan Biggar, Mike Phillips; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Ian Gough, Alun Wyn Jones (capt), Jerry Collins, Marty Holah, Jonathan Thomas.
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Craig Mitchell, Ryan Jones, Justin Tipuric, Jamie Nutbrown, Gareth Owen, Nikki Walker.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy