Sgoriodd y canolwr disglair yn y gornel dde gyda 10 munud yn weddill, wrth gasglu pas wych Xavier Rush allan o dacl.
Ond roedd hi'n ddiweddglo nerfus i'r tîm cartref ar ôl i Gaeredin gau'r bwlch i un pwynt diolch i gais Ben Cairns a throsiad arbennig Chris Patterson.
Yr ymwelwyr sgoriodd gais agoriadol y gêm wrth i'r dyfarnwr fideo ganiatáu sgôr i'r prop Allan Jacobsen.
Fe gymerodd amser i'r Gleision chwarae gydag unrhyw batrwm, ond roedd Laulala yn edrych yn beryg ar bob achlysur, a hanner bwlch y canolwr greodd y cais i Chris Czekaj yn yr hanner cyntaf.
Llwyddodd Dan Parks gyda'r trosiad, gan hefyd ychwanegu dwy gôl gosb ar ôl methu tair ymdrech flaenorol.
Gleision: Ben Blair; Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Tom Shanklin, Chris Czekaj; Dan Parks, Richie Rees; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito (capt), Maama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush.
Eilyddion: Rhys Williams, John Yapp, Scott Andrews, Deiniol Jones, Sam Warburton, Lloyd Williams, Ceri Sweeney, Dafydd Hewitt.
Caeredin: Chris Paterson; Jim Thompson, Ben Cairns, Alex Grove, Tim Visser; David Blair, Mike Blair; Allan Jacobsen, Ross Ford, Geoff Cross, Scott MacLeod, Fraser McKenzie, Alan MacDonald, Ross Rennie, Roddy Grant (capt).
Replacements: Andrew Kelly, Kyle Traynor, David Young, Craig Hamilton, Netani Talei, Greig Laidlaw, James King, Mark Robertson.
Dyfarnwr: Romain Poite (Ffrainc).