BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 08 Hydref 2010

Glasgow Warriors 21-13 Dreigiau

Wedi iddynt golli yn y gynghrair ar Rodney Parade ym mis Medi, fe dalodd Glasgow'r pwyth yn ôl yn erbyn y Dreigiau yng ngêm agoriadol Cwpan Heineken.

Siom y Dreigiau yn amlwg ar ddiwedd y gêm

Y Dreigiau groesodd am y cais agoriadol gyda'r asgellwr Adam Hughes yn sgorio cyn i Matthew Jones drosi'n llwyddiannus.

Llwyddodd Ruaridh Jackson gyda thair gôl gosb lwyddiannus cyn i Graeme Morrison croesi am eu cais agoriadol bum munud cyn yr egwyl.

Trosodd Jackson i wneud hi'n 16-7 ond fe leihawyd y fantais i chwe phwynt ar yr egwyl wedi i Jones lwyddo gyda chic gosb syml.

Yr oedd y fantais honno i lawr i dri phwynt yn unig yn fuan yn yr ail hanner gyda Jones yn llwyddiannus gyda'i ail gol gosb.

Bu'r ymwelwyr dan warchae am chwarter awr gyda chwarae penderfynol gan Tom Cheeseman ac Ashley Smith yn llwyddo i rwystro'r Warriors.

Roedd yr Archentwr Federico Aramburu wedi mynd yn agos i groesi i'r tîm cartref cyn i'r bachwr Fergus Thomson sgorio eu hail gais.

Fe gafodd Jones siawns i hawlio pwynt bonws i'r ymwelwyr yn hwyr yn y gêm ond roedd ei gic gosb yn rhy fyr wrth i'r Dreigiau golli ar benwythnos agoriadol Cwpan Heineken.


Glasgow: B Stortoni; D van der Merwe, M Evans, G Morrison, F Aramburu; R Jackson, C Gregor; J Welsh, F Thomson, M Low, T Ryder, R Gray, R Harley, J Barclay (capt), R Vernon.
Eilyddion: D Hall, R Grant, E Kalman, A Muldowney, C Forrester, H Pyrgos, D Weir, R Dewey.

Dreigiau: W Harries; A Hughes, T Cheeseman, A Smith, A Brew; M Jones, W Evans (capt); P Price, S Jones, B Castle, S Morgan, R Sidoli, D Lydiate, R Sowden-Taylor, A Coombs.
Eilyddion: L Burns, H Gustafson, N Hall, A Jones, L Evans, J Leadbeater, T Riley, M Evans.

Dyfarnwr: Jerome Garces (Ffrainc)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy