Treuliodd Fabio Semenzato i Treviso a Robert Sidoli o'r Dreigiau gyfnodau yn y gell gosb yn ystod yr hanner cyntaf ac fe croesodd Robert Barbieri am gais i'r tîm cartref. Ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl ac roedd y sgôr yn gyfartal 13-13 gyda chwarter yn awr yn weddill wedi ceisiau Scott Morgan a Phil Price.
Ond gyda phedwar munud o'r gêm yn weddill fe sgoriodd Burton y cais a sicrhaodd trydedd fuddugoliaeth o'r tymor i'r Eidalwyr.
Er sicrhau pwynt bonws mae'r golled yn golygu bod tîm Paul Turner eto i ennill oddi cartref y tymor hwn ac un safle o waelod Cynghrair Magners.
Benetton Treviso: Botes, Nitoglia, Galon, Vilk, De Jager, Burton, Semenzato, Vosawai, Derbyshire, Barbieri, van Zyl, A. Pavanello, Cittadini, Ghiraldini, Rouyet.
Eilyddion: Benvenuti am Nitoglia (80), Picone am De Jager (62), Williams am Semenzato (47), Zanni am Vosawai (24), E. Pavanello am van Zyl (62), Sbaraglini am Cittadini (47), Di Santo am Rouyet (47).
Heb ei ddefnyddio: Vidal.
Dreigiau: Harries, Hughes, Cheeseman, Riley, A. Brew, M. Jones, W. Evans, Coombs, Sowden-Taylor, Lydiate, Morgan, Sidoli, Castle, Burns, Price.
Eilyddion: L. Evans am Coombs (73), A. Jones am Sidoli (73), Hall am Castle (58), Gustafson am Price (66).
Heb eu defnyddio: A. Ellis, M. Evans, Griffiths, Smith.
Torf: 3,000