BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 30 Medi 2010

Gleision 22-6 Connacht

Camodd Gleision Caerdydd i frig tabl Cynghrair Magners wrth ennill am y bedwaredd tro mewn pum gêm ers cychwyn y tymor.

Casey Lualala

Roedd tîm Dai Young ymhell o fod ar eu gorau ar noson wlyb yn y brifddinas, ond buddugoliaeth gyfforddus oedd hi serch hynny.

Cais Casey Laulala oedd uchafbwynt y gêm wrth iddo we ei ffordd drwy amddiffyn yr ymwelwyr wrth ffug-basio ac yna ochrgamu heibio'r cefnwr yn urddasol.

Trosodd Dan Parks yng nghysgod y pyst, gan ychwanegu at ei gôl gosb gynnar i agor mantais o 16-3 ar yr hanner.

Ac yntau wedi agor y sgorio wedi pum munud, llwyddodd Fionn Carr gyda gôl gosb arall pum munud wedi'r egwyl i roi gobaith i'r ymwelwyr.

Ond ni ildiodd yr amddiffyn cartref yr un pwynt arall, a seliwyd y fuddugoliaeth yn y 10 munud olaf wrth i Parks a Leigh Halfpenny lwyddo at y pyst.


Gleision Caerdydd: Ben Blair; Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj; Dan Parks, Gareth Cooper; John Yapp, Rhys Williams, Tafa'ao Filise, Bradley Davies, Deiniol Jones, Michael Paterson, Sam Warburton, Xavier Rush (capt).
Eilyddion: Kristian Dacey, Gethin Jenkins, Scott Andrews, Paul Tito, Andries Pretorius, Kristian Baller, Ceri Sweeney, Tom Shanklin.

Connacht: Gavin Duffy; Troy Nathan, Niva Ta'auso, Keith Matthews, Fionn Carr; Ian Keatley, Frank Murphy (capt); Brett Wilkinson, Adrian Flavin, Jamie Hagan, Michael Swift, Andrew Browne; Michael McCarthy, Ray Ofisa, Mike McComish.
Eilyddion: Dermot Murphy, Ronan Loughney, Rob Sweeney, Bernie Upton, Johnny O'Connor, Cillian Willis, Miah Nikora, Darragh Fanning.

Dyfarnwr: Andy Macpherson (Yr Alban)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy