Richard Fussell groesodd am gais agoriadol i'r Gweilch wedi saith munud ond bu'n rhaid oedi'r chwarae am ddeg munud wedi i'r blaenasgellwr Ben Lewis ddioddef anaf i'w wddf.
Bu'n rhaid cludo Lewis o'r maes ar stretsier ac fe aethpwyd ag ef i'r ysbyty er mwyn cael archwiliad ond y gobaith yw nad yw'r anaf yn un difrifol.
Sicrhaodd y Gweilch y fuddugoliaeth gyda dwy gais gosb gyda Lee Byrne a Tommy Bowe hefyd yn croesi am geisiau.
Prin y bu Aironi yn bygwth llinell gais y Gweilch a daeth eu holl bwyntiau o droed y maswr Riccardo Bocchino.
Gweilch: Lee Byrne; Richard Fussell, Tommy Bowe, Andrew Bishop, Shane Williams; Dan Biggar, Jamie Nutbrown; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Ian Gough, Alun Wyn Jones (capt), Jerry Collins, Ben Lewis, Jonathan Thomas.
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Craig Mitchell, Ryan Jones, Justin Tipuric, Mike Phillips, Gareth Owen, Nikki Walker.
Aironi: Danwel Demas; Giulio Toniolatti, Gilberto Pavan, Gabriel Pizarro, Giulio Rubini; Riccardo Bocchino, Michael Wilson; Salvatore Perugini, Luigi Ferraro, Luca Redolfini; Marco Bortolami, Quintin Geldenhuys (capt); Andrea Benatti, Josh Sole, Gareth Krause.
Eilyddion: Leonardo Ulises Gamboa, Fabio Ongaro, Alberto De Marchi, Joshua Furno, Nicola Cattina, Pablo Canavosio, Julien Laharrague, Alberto Benettin.
Dyfarnwr: Andy Macpherson (Yr Alban)