Rhediad arbennig gan Lloyd Williams greodd y cais, a gwaith hawdd oedd gan Blair i gasglu pas y mewnwr ifanc ger y llinell gais pum munud cyn yr egwyl.
Llwyddodd Dan Parks gyda'r trosiad i agor y fantais i 13-0, ac yntau eisoes wedi llwyddo gyda gôl gosb a gôl adlam.
Roedd Trevisio wedi trechu'r Scarlets a Leinster ar eu tomen eu hun y tymor yma, a tharodd y tîm cartref yn ôl yn yr ail hanner gyda throsgais y capten Antonio Pavanello yn dilyn sawl hyrddiad pwerus gan y blaenwyr.
Bu'n rhaid i'r Gleision wrthsefyll rhagor o bwysau gan y blaenwyr cartref, ond seliwyd y fuddugoliaeth wrth i Park ychwanegu gôl gosb a gôl adlam yn y 10 munud olaf.
Benetton Treviso: Brendan Williams; Joseph Maddock, Tommaso Benvenuti, Alberto Sgarbi, Luke McLean; Kristopher Burton, Tobias Botes; Augusto Allori, Franco Sbaraglini, Pedro Di Santo, Antonio Pavanello (capt), Corniel Van Zyl, Marco Filipucci, Alessandro Zanni, Manoa Vosawai.
Eilyddion: Leonardo Ghiraldini, Ignacio Fernandez Rouyet, Lorenzo Cittadini, Enrico Pavanello, Robert Barbieri, Paul Derbyshire, Fabio Semenzato, Simon Picone.
Gleision: Ben Blair; Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Dafydd Hewitt, Tom James; Dan Parks, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas, Faao Filise, Deiniol Jones, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Martyn Williams, Maama Molitika.
Eilyddion: Kristian Dacey, Tom Davies, John Yapp, Andries Pretorius, Sam Warburton, Gareth Cooper, Ceri Sweeney, Gavin Evans.
Dyfarnwr: Andrew McMenemy (Yr Alban)