Sgoriodd George North, Jonathan Davies a Matthew Rees geisiau i'r ymwelwyr yn 34 munud agoriadol, gyda Stephen Jones yn trosi'r tri ac yn ychwanegu gôl gosb i agor mantais o 24-3 ar yr egwyl.
Ond roedd yr ymwelwyr o dan gryn bwysau ar gychwyn yr ail hanner wrth i Davies a Rees eistedd yn y gell gosb, a chaeodd Matthew Jones y bwlch gyda dwy gôl gosb.
Ac roedd y cefnogwyr cartref yn synhwyro buddugoliaeth pan groesodd Will Harries am gais yn y gornel chwith munud ar ôl i Tavis Knoyle gymryd lle ei gyd-chwaraewyr yn y gell gosb.
Ond methodd y Dreigiau â manteisio ar y dyn ychwanegol, ac roedd y pwyntiau eisoes yn ddiogel i'r Scarelts erbyn i Jones ychwanegu ail gôl gosb.
Gwastraffodd Sean Lamont gyfle i sicrhau pwynt bonws gyda phedwerydd cais yn yr eiliadau olaf, ond roedd yr ymwelwyr yn fwy na hapus i adael gyda thrydedd fuddugoliaeth o'r bron ers colli i Benetton Treviso ar benwythnos agoriadol y tymor.
Dreigiau: Will Harries; Adam Hughes, Tom Riley, Rhodri Gomer Davies, Aled Brew; Matthew Jones, Wayne Evans; Phil Price, Tom Willis (capt), Ben Castle, Luke Charteris, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Robin Sowden-Taylor, Gavin Thomas.
Eilyddion: Lloyd Burns, Nigel Hall, Hugh Gustafson, Adam Jones, Andrew Coombs, Shaun Connor, Nicky Griffiths, Tom Cheeseman.
Scarlets: Andy Fenby; George North, Regan King, Jon Davies, Sean Lamont; Stephen Jones, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Deacon Manu, Lou Reed, Vernon Cooper, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, David Lyons.
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Rhys Thomas, Dominic Day, Jonny Fa'amatuainu, Martin Roberts, Gareth Maule, Rhys Priestland.