Roedd 'na bryder i'r Gleision yn ystod yr hanner cyntaf pan fu'n rhaid cludo Casey Laulala oddi ar y maes ar stretsier yn dilyn gwrthdrawiad gyda Rhodri Gomer Davies.
Ond cafwyd newyddion calonogol yn fuan wedi hynny pan gadarnhawyd nad oedd y canolwr wedi dioddef anaf difrifol ac ei fod yn hytrach wedi cael ei fwrw mas.
Leigh Halfpenny, yn dechrau ei gêm gyntaf o'r tymor i'r Gleision, groesodd am gais agoriadol y noson wedi i Tom Shanklin a Ceri Sweeney chwarae eu rhan yn y symudiad,
A symudiad da arall gan y tîm cartref arweiniodd at yr ail gais gyda'r bachwr Rhys Thomas yn croesi gyda'r Gleision ar y blaen 20-6 ar yr egwyl.
Fe darodd yr ymhelwyr yn ôl yn fuan yn yr ail hanner gyda Will Harries, wedi gwaith gan Gomer Davies a Tom Riley, yn llwyddo i aros ar ochr cywir yr ystlys cyn tirio'r bêl dros y llinell gais.
Ond roedd yr ymwelwyr dan warchae am gyfnod wedi hynny ac fe dreuliodd y prop Ben Castle ddeg munud yn y gell gosb.
Croesodd Rhys Thomas am ei ail gais wedi 68 munud ac fe groesodd Tom Shanklin y llinell gais ond iddi gael ei ddiarddel oherwydd i'r bel gael ei phasio ymlaen.
Roedd y gêm yn un arwyddocaol i Ben Blair am y ffaith fod y gŵr o Seland Newydd bellach wedi sgorio dros fil o bwyntiau i'r Gleision.
Adam Hughes gafodd y gair olaf i'r Dreigiau yn yr eiliadau olaf ond roedd hi'n gais gysur ar noson pan oedd tîm Paul Turner yn ail orau.
Gleision: Ben Blair; Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Tom Shanklin, Chris Czekaj; Ceri Sweeney, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas, Scott Andrews, Bradley Davies, Paul Tito (capten), Maama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush.
Eilyddion: Rhys Williams, Tafa'ao Filise, John Yapp, Deiniol Jones, Michael Paterson, Richie Rees, Dan Parks, Dafydd Hewitt.
Dreigiau: Will Harries; Matthew Pewtner, Tom Riley, Rhodri Gomer Davies, Aled Brew; Matthew Jones, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Steve Jones, Ben Castle, Luke Charteris (captEN), Rob Sidoli, Dan Lydiate, Robin Sowden-Taylor, Gavin Thomas.
Eilyddion: Lloyd Burns, Nigel Hall, Aaron Coundley, Scott Morgan, Andrew Coombs, Adam Hughes, Nicky Griffiths, Shaun Connor.
Dyfarnwr: Nigel Owens (URC).