BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Medi 2010

Scarlets 49-10 Aironi

Hawliodd Jonathan Davies hat-tric o geisiau wrth i'r Scarlets sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn erbyn newydd ddyfodiaid Cynghrair Magners.

Jonathan Davies


Andy Fenby croesodd am gais cyntaf y noson i'r tîm cartref wedi hanner awr gyda George North yn ychwanegu ail gais cyn yr egwyl.

Roedd yr Eidalwyr lawr i 14eg dyn yn fuan yn yr ail hanner wedi i Jaco Erasmus weld y cerdyn melyn ac fe fanteisiodd Davies wrth groesi am ddwy gais.

Yr eilydd Martin Roberts sgoriodd y bedwaredd gais cyn i Davies gwblhau'r fuddugoliaeth gyda'i drydedd o'r noson.

Sgoriodd Stephen Jones dair gôl cosb gan drosi'r pum cais yn llwyddiannus gyda Nick Williams yn sgorio cais cysur hwyr i'r ymwelwyr.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu mai'r Scarlets sydd ar frig Cynghrair Magners dros nos gyda Aironi ar y gwaelod a heb ennill hyd yn hyn y tymor hwn.


Scarlets: Andy Fenby; George North, Regan King, Jon Davies, Sean Lamont; Stephen Jones, Tavis Knoyle; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capten), Deacon Manu, Lou Reed, Dominic Day, Rob McCusker, Johnathan Edwards, David Lyons
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Rhys Thomas, Jonny Fa'amatuainu, Josh Turnbull, Martin Roberts, Gareth Maule, Rhys Priestland

Aironi: Julien Laharrague; Danwel Demas, Gilberto Pavan, Gabriel Pizarro, Giulio Rubini; Ludovic Mercier, Tito Tebaldi; Salvatore Perugini, Fabio Ongaro, Alberto De Marchi; Carlo Del Fava, Quintin Geldenhuys (capten), Jaco Erasmus, Gareth Krause, Nick Williams.
Eilyddion: Luca Redolfini, Luigi Ferraro, Andrea De Marchi, Joshua Furno, Andrea Benatti, Pablo Canavosio, Giovanbattista Venditti, Riccardo Bocchino

Dyfarnwr: John Lacey (Iwerddon)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy