BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 11 Medi 2010

Leinster 34-23 Gleision

Fe ddaeth y Gleision o fewn eiliadau i hawlio pwynt bonws haeddiannol yn erbyn Leinster yn dilyn perfformiad llawn cymeriad yn yr ail-hanner yn Nulyn.

Ar ôl ildio dau gais o fewn wyth munud fe darodd y Gleision yn ôl wedi'r egwyl wrth i Bradley Davies a Richie Rees ateb ceisiau cynnar Shane Jennings a Isa Nacewa i'r tim cartref.

Ond ar ôl i Dan Parks roi'r ymwelwyr ar y blaen gyda'i drydydd gol gosb ychydig mwy na chwarter awr yn weddill fe diriodd Fergus McFadden a Ian Madigan i selio'r fuddugoliaeth.

Mae'r Gleision yn parhau i aros felly am eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Nulyn.

Roedd cais agoriadol y capten Jennings yn un dadleuon gan fod y dyfarnwr i'w weld wedi ymyrryd yn anfwriadol ar ymgais Deiniol Jones i daclo Isaac Boss yn gynharach yn y symudiad.

Ond doedd dim amheuaeth ynglŷn ag ail gais y Gwyddelod wrth i'r asgellwr Isa Nacewa orffen symudiad syml ond effeithiol ymhlith yr olwyr.

Fe darodd y Gleision yn ôl wrth i Dan Parks gosbi'r tîm cartref gyda dwy gôl gosb.

Ond gyda sgrym yr ymwelwyr o dan bwysau cynyddol, fe laniodd Nacewa dwy gôl gosb ei hun i ymestyn y fantais i 20-6 ar yr egwyl.

Wedi deg munud o'r ail-hanner fe wrthododd y Gleision gyfle am driphwynt ar ôl i Leinster atal y bêl ar ôl atal rhediad yr asgellwr Richard Mustoe yn dilyn gwrthymosodiad effeithiol o linell 22 eu hunain.

Ac fe dalodd y penderfyniad i fynd am y llinell ar ei ganfed pan lwyddodd y clo Bradley Davies yn wych i ymestyn ei fraich er mwyn tirio am yr ail benwythnos yn olynol yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr.

Llwyddodd Parks gyda'r trosiad i ddod a'i dîm o fewn trosgais i'rGwyddelod, 20-13.

Ar ôl llwyddo i wrthsefyll sgrym ar linell 5 metr eu hunain fe darodd y Gleision yn ôl yn wych gyda chais gwefreiddiol wedi awr o chwarae i ddod ar sgôr yn gyfartal

Fe gasglodd Chris Chekaj y bel yn ei hanner ei hun, ac ar ôl casglu ei gic gwta fe ailgylchwyd y bêl i ganiatáu Casey Laulau i fwydo'r amlwg Bradley Davies.

Fe sythodd y clo'r llinell yn effeithiol cyn i Mustoe a Xavier Rush gyfuno'n hyfryd i ryddhau Richie Rees gan alluogi'r mewnwr i frasgamu dros y llinell gais.

Unwaith eto roedd ymgais Parks ar y pyst yn gywir ac fe ychwanegodd y maswr triphwynt arall i roi ei dîm ar y blaen 20-23 am y tro cyntaf gyda 17 munud yn weddill.

Ond gyda'r Gleision unwaith eto o dan bwysau fe dorrodd Fergus McFadden drwy'r amddiffyn blinedig i adennill y fantais ac fe lwyddodd Nacewa gyda'r trosiad gyda 10 munud yn weddill.

Ac yn yr eiliadau olaf fe amddifadwyd y Gleision o bwynt bonws haeddiannol pan fanteisiodd Ian Madigan ar dacl llipa Parks i dirio am gais olaf y noson.


Leinster: L Fitzgerald; S Horgan, B O'Driscoll, F McFadden, I Nacewa; I Madigan, I Boss; H van der Merwe, R Strauss, M Ross, N Hines, E O'Donoghue, S O'Brien, S Jennings (capt), J Heaslip.
Eilyddion: J Fogarty yn lle Strauss (55), C Healy Van der Merwe (61), S Shawe am Ross (67), M Galarza yn lle O'Donoghue (78), D Ryan yn lle Jennings (61), E Reddan yn lle Boss (53), E O'Malley, yn lle O'Driscoll (61), D Kearney yn lle Horgan (49).

Gleision: C Czekaj; R Mustoe, C Laulala, D Hewitt, T James; D Parks, R Rees; T Davies, R Thomas, S Andrews, B Davies, D Jones, M Paterson, S Warburton, X Rush (capt).
Eilyddion: R Williams, J Yapp yn lle Andrews (49), T Filise T. Davies (41), J Down yn lle Jones (58), B White yn lle Warburton (71), M Williams, C Sweeney, G Evans yn lle Laulala (72).

Torf: 15,890

Dyfarnwr: Andy Macpherson (Alban).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy