BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 10 Medi 2010

Gweilch 32-16 Treviso

Sicrhaodd y Gweilch eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yng Nghynghrair Magners gyda pherfformiad proffesiynol yn erbyn Treviso ar Stadiwm Liberty.

Lee Byrne yn croesi am gais cyntaf y Gweilch

Ar ôl colli yn erbyn Ulster ar benwythnos agoriadol y tymor fe darodd y Gweilch yn ôl drwy groesi am bum cais gan hawlio'r pwynt bonws.

Roedd y rhanbarth wedi derbyn hwb cyn y gêm gyda'r newyddion eu bod wedi llwyddo mewn apêl yn y penderfyniad i dynnu pedwar pwynt oddi wrthynt.

Roedd hi'n ymddangos y byddai'r Gweilch yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus wedi i Lee Byrne a Nikki Walker groesi am y 13 munud agoriadol.

Ond fe gollodd y tîm cartref eu ffordd wedi hynny a 15-9 oedd y sgôr ar yr egwyl gyda'r mewnwr Tobias Botes yn llwyddiannus gyda thair gôl gosb i'r Eidalwyr.

Yn fuan yn yr ail hanner roedd y Gweilch i ymestyn eu mantais gydag Andrew Bishop yn canfod bwlch cyn croesi am y trydydd cais.

Seren y gêm Jonathan Thomas sgoriodd y bedwaredd cais i sicrhau'r pwynt bonws naw munud i mewn i'r ail hanner wrth iddo groesi yn dilyn sgarmes.

Gyda'r ymwelwyr lawr i 14 dyn wedi i Tommaso Benvenuti dderbyn y cerdyn melyn, Shane Williams sgoriodd y bumed cais wedi 73 munud.

Yr ymwelwyr gafodd y gair olaf gyda Brendan Williams yn croesi am gais gysur yn ystod y munudau olaf gyda Botes yn trosi'n llwyddiannus.

Gyda'r Gweilch wedi adennill pedair pwynt, mae'r fuddugoliaeth yn golygu eu bod wedi codi o waelod y tabl i'r ail safle yng Nghynghrair Magners.



Gweilch: Lee Byrne; Nikki Walker, Andrew Bishop, Gareth Owen, Shane Williams; Dan Biggar, Jamie Nutbrown; Ryan Bevington, Mefin Davies, Cai Griffiths, Ian Gough, Ian Evans, Jerry Collins (capt), Marty Holah, Jonathan Thomas.
Eilyddion: Huw Bennett, Duncan Jones, Paul James, James Goode, Ben Lewis, Rhys Webb, Tommy Bowe, Richard Fussell.

Benetton Treviso: Brendan Williams; Tommaso Benvenuti, Ezio Galon, Alberto Sgarbi, Luke McLean; Khristopher Burton, Tobias Botes; Augusto Allori, Diego Vidal, Pedro Di Santo, Enrico Pavanello, Corniel Van Zyl, Robert Barbieri, Alessandro Zanni, Paul Derbyshire.
Eilyddion: Leonardo Ghiraldini, Lorenzo Cittadini, Ignacio Fernandez Rouyet, Valerio Bernabò, Manoa Vosawai, Benjamin De Jager, Fabio Semenzato, Simon Picone.

Torf: 6,724

Dyfarnwr: Dudley Phillips (Iwerddon)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy