 | Cafodd y maswr Dan Parks ei ddewis fel seren y gêm yn ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision wrth iddo gyfrannu 14 o bwyntiau gan lwyddo hefyd i lywio'r chwarae yn effeithiol. Croesodd Bradley Davies, Tom James a Rhys Thomas yn yr hanner cyntaf wrth i Chris Paterson ateb gyda thair gôl gosb. Er i Tim Visser dirio dwywaith wedi'r egwyl fe orffennodd Casey Laulala symudiad gwefreiddiol a ddechreuodd yn nwfn yn hanner y Gleision i sicrhau'r pwynt bonws.
Gleision: Chris Czekaj; Richard Mustoe, Casey Laulala, Tom Shanklin, Tom James; Dan Parks, Richie Rees; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas, Scott Andrews, Bradley Davies, Paul Tito (c), Maama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush. Eilyddion: Sam Hobbs, Rhys Williams, Tom Davies, Deiniol Jones, Sam Warburton, Lloyd Williams, Ceri Sweeney, Ben Blair.
Caeredin: Chris Paterson, Lee Jones, Ben Cairns, Alex Grove, Tim Visser, Phil Godman, Mike Blair, Allan Jacobsen, Ross Ford, Geoff Cross, Fraser McKenzie, Scott MacLeod, Alan MacDonald, Netani Talei, Roddy Grant (capt). Eilyddion: Andrew Kelly, Kyle Traynor, Jack Gilding, Craig Hamilton, Scott Newlands, Greig Laidlaw, David Blair, John Houston.
 |  |