| Bydd tîm y brifddinas yn wynebu Llanymddyfri yn Stadiwm y Mileniwm ar 28 Ebrill.
Llwyddodd y Drovers i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf wedi iddynt synnu Llanelli yn y rownd gynderfynol brynhawn Sadwrn.
"Mae'r potensial yna am dorf anferth yn y rownd derfynol gyda gêm gorllewin v dwyrain yng Nghaerdydd," meddai Roger Lewis o Undeb Rygbi Cymru.
 |