Gareth Blainey
Dau atgof plentyn o wylio'r gêm ar y teledu yn y Saithdegau sydd gen i. Lerpwl oedd fy hoff dîm i yn yr hen Adran Gyntaf ar y pryd a 'doeddwn i ddim yn hoffi Leeds felly fe wnaeth buddugoliaeth annisgwyl Sunderland o 1-0 dros Leeds yn rownd derfynol 1973 argraff fawr arna' i.
Ian Porterfield sgoriodd y gôl fuddugol ond arbediad 'dwbwl' anhygoel golwr Sunderland, Jim Montgomery a dathliadau eu rheolwr nhw Bob Stokoe sydd hefyd yn aros yn y cof.
Y flwyddyn wedyn mi ges i fodd i fyw wrth wylio Lerpwl yn curo Newcastle yn y rownd derfynol gyda dwy gôl gan fy hoff chwaraewr, Kevin Keegan.
Dwi'n cofio neidio oddi ar y soffa ar ôl ail gôl Keegan - a, fel 'roedd lwc, glanio'n gyfforddus - a chofio hefyd fy mod i'n chwysu chwartiau : nid oherwydd sefyllfa'r gêm (roedd Lerpwl ar y blaen o 3-0) ond oherwydd fy mod i wedi mynnu gwisgo fy sgarff wlanog Lerpwl drwy gydol y gêm ar brynhawn poeth o Fai.
Wel, chwarae teg, plentyn oeddwn i!
Dylan Ebenezer
Mae'r rhan fwyaf o'n hatgofion am Gwpan Lloegr yn ymwneud â'r ffaith fy mod yn gefnogwr Arsenal. Mae 'na atgof niwlog iawn yn fy mhen o'r Gunners yn ennill y rownd derfynol ym 1979 o 3-2 yn erbyn Manchester United.
Ond yn anffodus fy atgof go iawn cyntaf yw mynd i Wembley ym 1980 ar gyfer rownd derfynol arall rhwng Arsenal a West Ham. Yr Hammers enillodd o 1-0 a dwi'n cofio crio gan ofyn i 'nhad sut bod hyn yn gallu digwydd. Fe wnes i'r 'un peth rhai wythnosau yn ôl ar ôl colli yn erbyn Lerpwl yn Ewrop!
Yn ddiweddar dwi wedi cael y fraint o weld Arsenal yn codi'r gwpan yng Nghaerdydd a cael y fraint o weithio yn y rownd derfynol hefyd.
Ond bydde ni erioed wedi breuddwydio y bydde ni yn cael dilyn Caerdydd i'r Wembley newydd - ac am unwaith dwi'n gobeithio y bydd na sioc yn y gwpan.
Dylan Griffiths
Chwech oed oeddwn i, felly mae fy atgofion o'r rownd derfynol ym 1977 bach yn gymylog.
Manchester United yn erbyn Lerpwl oedd y gêm, ychydig ddyddiau cyn i Lerpwl wynebu Borussia Mönchengladbach yng Nghwpan Ewrop. Mi ddysgais yn ifanc bod pêl-droed yn gallu bod yn gêm greulon ar adegau.
United oedd yn fuddugol o 2-1 gyda Lou Macari yn sgorio'r gôl fuddugol a waeth i mi gyfadde' roedd 'na ambell i ddeigryn.
Mae fy atgofion o'r rownd derfynol yn 2006, dwi'n falch o ddweud, yn llawer gwell.
Roeddwn yn ddigon ffodus i gael dau docyn ac roedd hi'n bnawn poeth ym mis Mai - Lerpwl yn erbyn West Ham yn Stadiwm y Mileniwm.
Pa mor aml mae rhywun yn edrych ymlaen at rownd derfynol ac yna yn cael ei siomi nid yn unig efo'r canlyniad ond efo safon y gêm?
Nid y tro yma - chwip o gêm gyda Lerpwl yn fuddugol ar giciau o'r smotyn. Roedd y stadiwm ar ei orau a chefnogwyr y ddau dîm yn gwerthfawrogi gêm dda o bêl-droed.
Dwi'n falch o ddweud doedd na'm dagrau y tro yma 'chwaith!
Aled Williams
Doedd fawr neb yn disgwyl i Everton guro Manchester United yn rownd derfynol 1995, yn bennaf oherwydd fe dreuliodd y Gleision y rhan fwyaf o'r tymor hwnnw yn brwydro rhag cwympo o'r Uwchgynghrair. Ond roedd Joe Royle wedi magu ysbryd anhygoel o fewn carfan Everton - y 'Dogs of War' yr oedd sylwebyddion yn cyfeirio atynt. Efallai mai Paul Rideout sgoriodd unig gôl y gêm, ond heb os Neville Southalll oedd arwr y dydd gyda sawl arbediad allweddol.
Nid fod Southall wedi trafferthu gyda'r dathliadau swanc, gan benderfynu dychwelyd i Landudno yn syth wedi'r gêm!
O leia' roedd buddugoliaeth '95 yn lleddfu'r boen o United yn trechu Everton yn y Ffeinal ddeng mlynedd yn gynharach!
Dewi Hughes
Manchester United yn erbyn Everton ym 1985 oedd y rownd derfynol gyntaf i mi gofio ei wylio yn blentyn - a gêm wnaeth gryn argraff arna i.
Er i mi fod yn dilyn y tîm cenedlaethol ers sbel, doeddwn i heb eto benderfynu ar glwb i'w gefnogi. Newidiodd hynny yn syth ar ôl gweld Norman Whiteside yn crymanu'r bêl yn gelfydd heibio Neville Southall i ennill y Gwpan yn amser ychwanegol.
Dim ond un tîm oedd 'na i mi ar ôl hynny...
Eilir Llwyd
Mewn oes pan mae gemau byw yn cael eu darlledu hyd at syrffed bron, mae hi'n anodd pwysleisio cymaint o achlysur oedd diwrnod Cwpan FA Lloegr yn y dyddiau pan roedd cael gwylio'r Big Match yn hytrach na mynd i Ysgol Sul yn cael ei ystyried fel 'Super Sunday'.
Y rownd derfynol cyntaf i mi gofio ydi'r frwydr enwog hwnnw rhwng Arsenal a Lerpwl yn 1971. Gyda'r gêm yn ddi-sgôr wedi 90 munud ar brynhawn chwilboeth fe sgoriodd Steve Heighway i Lerpwl wedi 45 eiliad o amser ychwanegol cyn i Eddie Kelly rwydo dros Arsenal.
Ac wedyn, gyda deg munud yn weddill, dyma Charlie George yn crymanu'r bêl yn hyfryd heibio Ray Clemence i ennill y gêm ar' dwbwl i Arsenal.
Ond nid y gôl yn unig sy'n aros yn y cof. Mae'r lluniau o George yn dathlu drwy orwedd ar wastad ei gefn gyda'i freichiau ar led cyn derbyn cymeradwyaeth ei gyd-chwaraewyr yn rhan o chwedloniaeth y Cwpan erbyn hyn.
Roedd rhamant go iawn yn perthyn i'r gystadleuaeth bryd hynny, a braf gweld yr elfen honno yn dychwelyd eto eleni.