BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 14 Mai 2008
Cefnogwyr Caerdydd

Mae nhw'n wynebau amlwg ar ein setiau teledu. Mae Rhys Hartley yn fwy adnabyddus i selogion Pobol y Cwm fel Huw White, mae Rhydian Bowen Phillips yn un o gyflwynwyr Uned 5 tra bod Gary Slaymaker yn gyflwynydd ac adolygydd.

Ond mae'r tri hefyd yn ffans mawr o Glwb Pêl Droed Caerdydd ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at rownd derfynol Cwpan FA Lloegr brynhawn Sadwrn.

Cefnogi ers pryd?

Rhys Hartley gyda Cwpan FA LloegrRhys: Ers y diwrnod ges i fy ngeni! Es i i fy ngêm gyntaf yn 6 wythnos oed!

Rhydian: Roedd tocyn tymor gen i yn yr ysgol nôl ym 1988 pan oedd Nathan Blake yn chwarae achos mi oedd 'na lot fawr o gefnogwyr yn mynd lawr i wylio Caerdydd o'r cymoedd, felly o'n i yn dod lawr o'r Porth gyda fy ffrindiau. Nawr gan bo' fi'n byw yn Grangetown dwi wedi bod yn cerdded draw i'r gemau ym Mharc Ninian ers y pum mlynedd diwethaf.

Gary:Dwi wedi bod yn cefnogi'r clwb am ugain mlynedd ers i mi symud i'r ddinas. Roeddwn yn byw yn Canton bryd hynny, sydd ddim yn bell o Barc Ninian. Ar ôl rhai blynyddoedd fe ges docyn tymor.

Hoff atgof?

Rhys: Naill ai curo QPR yn ffeinal y gemau ail-gyfle yn 2003 neu'r awyrgylch yn y Riverside ar ol curo Middlesbrough oddi cartref eleni!

Rhydian: Nathan Blake yn sgorio gôl wych i guro Man City yng Nghwpan yr FA, neu gweld hanner Wembley yn neud yr Ayatollah yn erbyn Barnsley.

Gary: Curo Leeds o 2-1 yng Nghwpan yr FA yn 2002. Roeddwn i yno ac roedd Sam Hammam yn mynd o gwmpas y maes yn gwneud yr Ayatollah!

Hoff chwaraewr erioed?

Gary SlaymakerRhys: Andy Legg.

Rhydian: Lot ohonyn nhw. Graham Kavanagh, Earnie, Jason Koumas a Chopra.

Gary:Robert Earnshaw. Brynais i grys 'da Earnshaw ar y cefn, rhyw fis cyn iddo cael ei werthu!

Hoff chwaraewr presennol?

Rhys: Kevin McNaughton.

Rhydian: Cwestiwn anodd iawn!! Joe Ledley, Paul Parry neu Aaron Ramsey. Hefyd Robbie Fowler (Duw) gan fy mod i'n hoff o Lerpwl hefyd.

Gary:Joe Ledley, Aaron Ramsey a Paul Parry. Mae Parry wedi cael tymor hynod o dda.

Mynd i Wembley?

Rhys: Wrth gwrs!!

Rhydian: Ydw - gan fy mod i'n 'Ambassador' yn y 'Bob Bank' ges i gyfle i archebu'r tocynnau yn fuan. Mae nhw'n saff - ond o ni'n gorfod rhoi nhw yn syth i fy chwaer Bethan achos o'n i'n poeni baswn i'n colli nhw! Mae nhw fel aur.

Gary: Nagw. Dwi'n un o'r ychydig rai na fydd yn mynd. Dwi heb benderfynu lle 'dwi am wylio'r gêm ond mewn rhyw dŷ tafarn yn rhywle!

Oes gan Gaerdydd gyfle yn Wembley?

Rhydian Bowen PhillipsRhys: Os fydd Paul Parry yn ôl yn y tîm, ac mae'r amddiffyn yn chwarae ar eu gorau, yna dwi'n meddwl bo cyfle 'da ni!

Rhydian: Oes. Os oedd Caerdydd yn erbyn un o'r pedwar mawr (Lerpwl, Man U, Arsenal neu Chelsea) baswn i'n poeni ond 90 munud yn erbyn tîm sydd ddim yn grêt! Mae 'na gyfle! Jimmy Floyd i sgorio'r gôl i ennill y gêm yn ei gêm olaf o bosib. Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod hanesyddol beth bynnag fydd yn digwydd.

Gary:Oes dwi'n credu. Mae gen i deimlad fod Caerdydd am ennill. Mae 'na fwy o awch gan Gaerdydd i ennill y gwpan.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy