BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 23 Ebrill 1927
Arsenal 0-1 Caerdydd

Bydd Cwpan yr FA yn gadael Lloegr am y tro cyntaf wedi i Gaerdydd drechu Arsenal yn y rownd derfynol yn Stadiwm Wembley.

Wedi gêm llawn tensiwn, daeth unig gôl y gêm gyda chwarter awr yn weddill.

Ac fe fydd y gôl yn cael ei thrafod am flynyddoedd, os nad degawdau i ddod.

Cafodd ergyd Hughie Ferguson ei arbed gan y golwr Arsenal, y Cymro Dan Lewis.

Ond rhywsut llithrodd y bêl drwy ddwylo Lewis, o dan ei gorff a dros y llinell.

Pwysodd Arsenal am gôl gyfartal, ond safodd Nelson, Watson, Sloan a Keenor yn gadarn.

Ac ar ganiad y chwiban olaf heidiodd miloedd o Gymry gorfoleddus i'r maes er mwyn cofleidio eu harwyr.

Hughie Ferguson

Roedd hi'n briodol, a hithau'n ddydd nawddsant Lloegr mai'r Brenin Siôr V oedd y Gwestai Anrhydeddus i gyflwyno'r Gwpan i Keenor.

Hon oedd yr ail waith mewn tair blynedd yr oedd Caerdydd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Lloegr.

Colli yn erbyn Sheffield United oedd hanes Caerdydd ym 1925.

Ond roedd Fred Keenor wedi mynnu bryd hynny y byddai Caerdydd yn dychwelyd i Wembley ac yn ennill y Gwpan.


Arsenal: Lewis, Parker, Kennedy, Baker, Butler, John, Hulme, Buchan, Brain, Blyth, Hoar.

Caerdydd: Farquharson, Nelson, Watson, Keenor, Sloan, Hardy, Curtis, Irving, Ferguson, Davies, McLachlan.

Goliau: Ferguson (74)

Dyfarnwr: W.F. Bunnell (Preston)

Torf: 91,206


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy