BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 14 Mai 2008
BBC Cymru yn Wembley
Bydd BBC Cymru yn dod a holl gyffro'r edrych ymlaen a'r gêm ei hun i'r rheini na fydd yn pererindota i Wembley brynhawn Sadwrn.

Rhodri Llywelyn

Gyda sylwebaeth lawn ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC One Wales a'r diweddara ar fwletinau Newyddion a Wales Today bydd dim dianc rhag yr adar gleision!

Ac am y tro cyntaf erioed eleni bydd modd gwylio rownd derfynol y gystadleuaeth gyda sylwebaeth Radio Cymru trwy wasgu'r botwm coch.

"Mae'n anodd credu fod tîm o Gymru yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ac y bydd pobl yn medru mwynhau'r gêm gyffrous gyda sylwebaeth Gymraeg - mae'r peth yn anhygoel," dywed Rhodri Llywelyn a fydd yntau yn Wembley yn cyflwyno'r Post Cyntaf a Newyddion.

"Byddwn ni'n dilyn y cefnogwyr a'r cyffro o fore dydd Gwener pan fydd y Post Cyntaf yn darlledu'n fyw o Barc Ninian cyn mynd a'r siarabáng lan i Wembley ar gyfer y digwyddiad ei hun."

Fel un sydd wedi ei fagu yng Nghaerdydd, mae Rhodri ei hun wedi bod yn cefnogi'r adar gleision ers blynyddoedd.

"Mae sôn wedi bod erioed am gwpan 1927 ac mae'r gôl yn erbyn Arsenal yn rhan o chwedloniaeth erbyn hyn.

"Mae'n hollol afreal fod Cwpan yr FA o fewn cyrraedd Caerdydd unwaith yn rhagor a bydd bod yno yn un o brofiadau mawr bywyd."

Os ddaw'r gwpan yn ôl i Gymru bydd taith bws o gylch y ddinas ar ddydd Sul i ddathlu a bydd gwasanaethau BBC Cymru yno unwaith yn rhagor i ddarlledu'r holl ddigwyddiad.

"Rhwng siom Cwpan Rygbi'r Byd yna cipio'r Gamp Lawn a buddugoliaeth Joe Calzaghe yn Las Vegas byddai ennill Cwpan FA Lloegr yn binacl haeddiannol i dymor anhygoel o chwaraeon," ychwanega Rhodri.

Bydd Gareth Blainey yn aelod o dîm sylwebu Camp Lawn yn Wembley ddydd Sadwrn.

"Dwi'n edrych ymlaen yn arw at sylwebu fydd yn 'dro cyntaf' ar sawl cyfrif," meddai Gareth.

"Hwn fydd y tro cyntaf imi fod yn ddigon ffodus i sylwebu ar rownd derfynol Y Cwpan, y tro cyntaf i dîm o Gymru fod yn y rownd derfynol yn ystod fy mywyd i a hwn fydd y tro cyntaf i wylwyr teledu allu clywed sylwebaeth radio yn Gymraeg ar y rownd derfynol trwy wasgu'r botwm coch "

Rhaglenni BBC Radio Cymru o Wembley
Dydd Sadwrn, Mai 17

Post Cyntaf, 8am
Ar y Marc, 8.30am
Dafydd Du, 12.30pm
Camp Lawn, 2pm

Newyddion, BBC Cymru ar S4C, 8.15pm


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy