BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Mai 2008
Rhagolwg Iwan Roberts
ganIwan Robertscyn ymosodwr Cymru, Norwich City a Chaerlŷr


Alle chi ddadlau mai Caerdydd yw'r ffefrynnau os ydych yn edrych ar ganlyniadau'r ddau dîm ers y rownd gyn derfynol.

Ers i Portsmouth guro West Brom mae nhw wedi cael rhediad gwael gan ennill ond un gêm yn unig tra bod Caerdydd wedi colli dwy gêm oddi cartref.

Bydd gan Gaerdydd hyder ar ôl rhoi cweir i Middlesbrough, tîm dyma'n trechu Portsmouth bythefnos yn ôl yn yr Uwchgynghrair.

Wrth edrych ar garfan Dave Jones mae 'na ddigon o chwaraewyr sydd wedi chwarae ar y lefel ucha' ac mae Robbie Fowler a Jimmy Floyd Hasselbaink wedi chwarae yn y rownd derfynol.

Mae nhw'n chwaraewyr sydd wedi bod yno o'r blaen ac fe alle nhw egluro i'r chwaraewyr eraill beth sydd i'w ddisgwyl cyn y diwrnod mawr.

Os yw Caerdydd yn mynd i ennill yna mae'n mynd i fod yn brynhawn anferth i'r ddau amddiffynnwr canol - Roger Johnson a Glenn Loovens.

Mae'r tri Chymro, Joe Ledley, Paul Parry ac Aaron Ramsey, wedi cael dylanwad ar y tîm y tymor hwn.

Paul Parry

Parry yw prif sgoriwr y clwb, ac mae ganddo'r cyflymder a'r symudiad i greu trafferthion i Sol Campbell.

Mae Ledley wedi cael tymor gwych ac mae pawb wedi bod yn siarad am Aaron Ramsey.

Dwi'n siŵr y bydd nifer o reolwyr o'r Uwchgynghrair yn ei wylio yn Wembley a bydd hi'n ddiddorol gweld sut y bydd yn ymdopi gyda'r achlysur.

Mae hi hefyd yn mynd i fod yn brynhawn mawr i Stephen McPhail a Gavin Rae oherwydd os 'da chi'n ennill y frwydr yng nghanol y cae 'da chi'n mynd ymlaen i ennill y gêm.

O ran chwaraewyr Portsmouth mae'n dibynnu os bydd David James yn holliach gan mai fe yw'r golwr gorau yn Lloegr ar hyn o bryd.

Y newyddion da i Gaerdydd yw na fydd Jermaine Defoe yn chwarae oherwydd ei fod eisoes wedi chwarae i Spurs yn y gystadleuaeth.

Mae Niko Kranjcar yn chwaraewr talentog ac mae'r gallu ganddo i sgorio goliau a bydd rhaid cadw llygad arno.

Mae ganddynt chwaraewyr da ac maent wedi mwynhau tymor gwych o dan reolaeth Harry Redknapp.

Mae Dave Jones yn rheolwr profiadol ond yr hyn sydd yn anghredadwy oedd bod rhai pobl cyn y Dolig eisiau ei weld yn colli ei swydd.

Roedd Caerdydd yn chwarae'n wael a doedde nhw ddim yn cael y canlyniadau. Ond dywedodd bryd hynny 'barnwch fi ar ddiwedd y tymor.'

Dwi'n meddwl bod hi'n beth da bod dau dîm gwahanol yn y rownd derfynol. Dyma'r tro cyntaf mewn 13 mlynedd nad yw un o'r pedwar clwb mawr yn mynd i ennill y gwpan.

Niko Kranjcar

Bydd Wembley yn orlawn a bydd cymaint yn gwylio'r gêm hon ar y teledu ac os bydde Arsenal, Manchester United, Chelsea neu Lerpwl yn y rownd derfynol.

Mae Caerdydd wedi cael ychydig bach o lwc yn ystod y gystadleuaeth - cofiwch fod Chasetown wedi bod ar y blaen yn eu herbyn yn y drydedd rownd.

Ond mae'n rhaid i chi gael ychydig bach o lwc i gyrraedd y rownd derfynol.

Bydd yn rhaid i bob un o chwaraewyr Caerdydd fod ar ben eu gêm os ydynt am unrhyw siawns o guro Portsmouth bnawn Sadwrn.

Er nad yw Portsmouth wedi cael canlyniadau da yn ddiweddar, nhw yw'r ffefrynnau a dwi'n meddwl mai nhw aiff ymlaen i godi'r gwpan.

  • Bydd Iwan Roberts yn rhan o dîm sylwebu Camp Lawn yn Wembley ddydd Sadwrn.

  • chwaraeon



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy