BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Mawrth 2011

Tymor ar ben i Chopra oherwydd anaf

Ni fydd Michael Chopra yn chwarae unrhyw ran yng ngemau Caerdydd o hyn tan ddiwedd y tymor wrth i'r clwb anelu am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Michael Chopra yn gadael y maes yn erbyn Barnsley

Mae'r ymosodwr 27 mlwydd oed wedi rhwygo cyhyr llinyn y gar, anaf sy'n cymryd hyd at 12 wythnos i wella.

Dioddefodd Chopra yr anaf wedi 25 munud o gêm gyfartal Caerdydd yn erbyn Barnsley ddydd Sul, ac fe adawodd y maes ar ben stretsier.

"Mae profion wedi cadarnhau'r gwaethaf," dywedodd Caerdydd mewn datganiad. "Mae'n siomedig iawn i bawb."

Mae Chopra wedi sgorio 11 gôl mewn 32 ymddangosiad i Gaerdydd y tymor yma.

Mae'i anaf yn golygu mai Jay Bothroyd, Craig Bellamy a Jon Parkin yw'r unig ymosodwyr holliach yng ngharfan Caerdydd wrth i'r tymor gyrraedd diweddglo hynod gyffrous.

Pedwerydd yn y Bencampwriaeth yw safle'r Adar Gleision ar hyn o bryd gyda naw gêm o'r tymor yn weddill.

Mae bwlch o 11 pwynt at y tîm ar y brig, Queens Park Rangers, ond mae Norwich, sy'n ail, o fewn cyrraedd a hwythau pedwar pwynt ar y blaen.

Mae'r ddau dîm ar y brig yn ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, gyda'r timau sy'n gorffen o'r trydydd i'r chweched safle yn brwydro am un lle mewn gemau ail-gyfle.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy