BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Mai 2008
Jones yn difaru 'camgymeriad costus'

Talodd rheolwr Caerdydd Dave Jones deyrnged i'w chwaraewyr ar ôl y golled i Portsmouth yn rownd derfynol Cwpan yr FA, ond gofidiodd mai camgymeriad oedd y trobwynt yn Wembley.

Dave Jones yn gydymdeimlo Joe Ledley

Sgoriodd Kanu unig gôl y gêm ar ddiwedd yr hanner cyntaf ar ôl i gôl-geidwad Caerdydd Peter Enckelman fethu dal croesiad isel John Utaka.

"Camgymeriad gostiodd y gêm i ni, ond rhoddodd y chwaraewyr bopeth ar y cae a dyna'r oll y medrwn i ofyn amdano," meddai Jones.

"Fe all pawb fod yn falch o'r tîm. Dwi ddim yn teimlo dim gwell ond dwi'n falch iawn o'r chwaraewyr a'r staff."

Dywedodd Joe Ledley ei fod yn teimlo bod Caerdydd wedi colli cyfle euraidd i wneud hanes ar ôl rhoi Portsmouth o dan gryn bwysa mewn gêm agored.

"Dwi'n siomedig iawn, dwi'n meddwl ein bod ni 'di chwarae'n dda ac yn haeddu rhywbeth o'r gêm," meddai'r Cymro ifanc sy'n hanu o'r Gaerdydd.

"Mae'r pethau 'ma yn digwydd ym mhêl-droed ac mae'n rhaid i mi edrych ymlaen at dymor nesaf rŵan, ond mae hi 'di bod yn anrhydedd bod yma.

"Efallai down ni ddim yn ôl yma, felly 'ma hi'n gyfle 'da ni wedi ei golli - ond maen nhw'n chwarae yn yr Uwchgynghrair a 'da ni yn y Bencampwriaeth."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy