BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 17 Mai 2008
Jones yn gwireddu breuddwyd yn Wembley

Dywed Dave Jones y bydd hi'n anrhydedd mawr cael arwain chwaraewyr Caerdydd yn Wembley ar gyfer rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Dave Jones

Nid yw Jones - yn ystod ei yrfa fel chwaraewyr neu reolwr - wedi bod yn rhan o rownd derfynol Cwpan FA Lloegr o'r blaen.

Chwaraeodd Jones i Everton yn Wembley ym 1977, ond yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair oedd hynny.

"Yn fy marn i hon yw'r gystadleuaeth gwpan fwyaf yn y byd," meddai Jones. "Yn blentyn 'da chi'n breuddwydio cael bod yn rhan o' rownd derfynol.

"Bydd arwain Caerdydd yn anrhydedd mawr ac mae'n deimlad arbennig bod yn rhan o'r holl beth.

"'Da ni'n gwybod y bydd 'na gynulleidfa fyd-eang sydd yn beth gwych i Gaerdydd.

"Bydd hi'n ddiwrnod gwych ond mae gennym un peth mewn golwg sef ennill y gwpan ond 'da ni'n gwybod y bydd hi'n dasg anodd."

"Mae nhw'n dîm o safon gyda chwaraewyr o safon a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau ac os gallwn ni wneud hynny da ni'n gallu cystadlu gydag unrhyw dim," meddai Jones.

Mae Jones yn cydnabod mai Portsmouth o'r Uwchgynghrair fydd y ffefrynnau i ennill y gwpan am y tro cyntaf ers 1939.

"Mae'r pwysau ar Portsmouth i ennill, mae pobl yn disgwyl iddynt ennill.

"Mae pobl wedi dweud wrthyf y dyle ni fynd yno a mwynhau ac mae pawb yn rhoi cyngor i mi ar sut i ennill y gwpan."

Y rheolwr y bydd Jones yn wynebu yn Wembley yfory yw Harry Rednkapp, gŵr arall sydd â phrofiad helaeth o'r gêm.

"Mae Harry yn rheolwr da ac yn haeddu'r holl glod, ond gobeithio 'na fydd ddydd Sadwrn."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy