Roedd yr amddiffynnwr yn aelod o garfan Caerdydd cyn symud i Tottenham Hotspur ar ddechrau'r flwyddyn. Ond nid yw'r chwaraewr 18 oed, sydd bellach yn aelod o garfan genedlaethol John Toshack, yn edifar gadael yr Adar Gleision a cholli'r cyfle i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. "Mae llawer o bobl wedi gofyn i mi os ydw i'n genfigennus ond dwi'n meddwl bod yn rhaid i chi edrych ar y darlun cyflawn," meddai Gunter. "Chwaraeais fy ngem gyntaf dros Spurs yng Nghwpan yr FA a dod ymlaen i'r maes fel eilydd yn Old Trafford. "Mae Cwpan yr FA wedi bod yn dda i mi hefyd y tymor hwn." "Dwi'n dal i siarad yn ddyddiol gyda'r chwaraewyr yno fel Joe [Ledley] a Rambo [Aaron Ramey]. p>"Dwi'n falch iawn dros y chwaraewyr, y cefnogwyr a'r staff oherwydd mae nhw wedi gweithio'n galed. "Mae'n beth mawr i'r clwb fod yn rownd derfynol Cwpan yr FA a dwi'n dymuno'n dda iddynt. "Os alle Caerdydd chwarae gystal ag y galle nhw ac os nad yw Portsmouth ar eu gorau yna mae gan Gaerdydd y gallu i ennill y gêm."
 |