Mae Fowler wedi colli'r bedair mis ddiwethaf yn dilyn llawdriniaeth i'w glun. Ond dywed y rheolwr Dave Jones y gall cyn ymosodwr Lerpwl a Lloegr chwarae rhan. "Dwi'n meddwl y bydd yn rhan o'r garfan oherwydd mae wedi edrych yn dda unwaith eto heddiw," meddai Jones. "Ni fydd yn dechrau'r gêm, ond bydd rhai aros i sut bydd yn teimlo wedi wythnos o ymarfer cyn penderfynu os bydd ymysg yr eilyddion." "Mae nhw'n dîm o safon gyda chwaraewyr o safon a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau ac os gallwn ni wneud hynny da ni'n gallu cystadlu gydag unrhyw dim," meddai, "Mae'r pwysau ar Portsmouth i ennill. "Mae Harry [Redknapp] yn rheolwr da ac yn haeddu'r holl glod, ond gobeithio na fydd ddydd Sadwrn."
 |