Goliau Peter Whittingham a Roger Johnson sy'n golygu y bydd yr Adar Gleision yn teithio i Wembley fis nesaf ar gyfer y rownd gyn derfynol. Caerdydd yw'r clwb cyntaf o Gymru i gyrraedd rownd gyn derfynol y gystadleuaeth ers Abertawe ym 1964. Roedd gwŷr Dave Jones yn llawn haeddu'r fuddugoliaeth yn erbyn tîm cartref hynod siomedig. Gyda dros dair mil o gefnogwyr wedi gwneud y daith hir o dde Cymru, yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi naw munud gyda tharan o ergyd gan Peter Whittingham. Roedd chwaraewyr Boro yn anhapus bod Stephen McPhail wedi llawio'r bêl cyn iddi lanio ar gyfer Whittingham. Roedd Caerdydd wedi ymestyn eu mantais 13 munud yn ddiweddarach gyda pheniad Johnson yn curo Mark Schwarzeryn dilyn cic rydd Whttingham. Bu bron i Johnson ailadrodd y gamp honno yn fuan wedi hynny ac fe ergydiodd Paul Parry heibio'r postyn wrth i Gaerdydd reoli'r gêm. Cafodd Afonso Alves a Stewart Downing gyfleoedd i'r tîm cartref, ond prin oedd ymosodiadau Boro ac roedd Caerdydd yn llawn haeddu'r fuddugoliaeth. Bydd Caerdydd yn canfod eu gwrthwynebwyr yn y rownd gyn derfynol brynhawn Llun, pan fydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o'r het.
 |