BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 16 Chwefror 2008
Caerdydd 2-0 Wolves

Mae Caerdydd drwodd i rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 81 o flynyddoedd diolch i goliau Peter Whittingham a Jimmy Floyd Hasselbaink ar Barc Ninian.

Roedd Caerdydd ar y blaen wedi 90 eiliad gyda Whittingham yn rhwydo yn dilyn peniad Hasselbaink.

Yr ymosodwr o'r Iseldiroedd sgoriodd ail gôl Caerdydd naw munud yn ddiweddarach gyda tharan o ergyd.

Roedd Wolves yn siomedig ac ychydig iawn o gyfleoedd gafodd yr ymwelwyr i fygwth amddiffyn Caerdydd.

Ychydig cyn yr egwyl fe ddaeth ymosodwr Cymru, Freddy Eastwood ymlaen i'r maes fel eilydd ac fe gafodd gyfle gorau ei dîm.

Bu'n rhaid i'r golwr Peter Enckelman fod ar ei orau i arbed ergyd gan y Cymro.

Daeth Kevin Kyle yn agos i leihau'r fantais yn fuan yn yr ail hanner, gan fanteisio ar gamgymeriad gan Glenn Loovens.

Ond fe wnaeth Loovens yn iawn am ei gamgymeriad i rwystro ergyd Kyle ar y llinell.

Bu'n brynhawn prysur i golwr Cymru, Wayne Hennessey fu'n rhaid arbed cynigion gan Parry a Whittingham yn yr ail hanner.


Caerdydd: Enckelman, McNaughton, Capaldi, Johnson, Loovens, Rae, Whittingham (Sinclair 90), McPhail (Blake 90), Ramsey, Parry, Hasselbaink (Thompson 76).
Eilyddion: Oakes, Purse.

Cerdyn melyn: McPhail, Thompson.

Goliau: Whittingham 2, Hasselbaink 11.

Wolverhampton: Hennessey, Breen, Craddock, Foley (Gibson 63), Gray, Henry, Olofinjana (Eastwood 40), Potter, Kyle (Elliott 62), Bothroyd, Keogh.
Eilyddion: Rob Edwards, Stack.

Cerdyn melyn: Craddock, Gibson, Bothroyd.

Torf: 15,339

Dyfarnwr: Rob Styles (Swydd Hants).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy