| Roedd yn rhaid i Gaerdydd frwydro yn ôl yn erbyn Chasetown ar faes y Scholars ar ôl i Kevin McNaughton rwydo yn ei gol ei hun wedi 18 munud.
Ac er iddyn nhw ddioddef cyfnod sigledig fe unionodd ergyd Peter Whittingham y sgôr yn yr amser ychwanegwyd ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Caerdydd oedd yn rheoli wedi'r egwyl gyda Aaron Ramsey yn rhwydo ar ei ymddangosiad llawn cyntaf i'w glwb cyn i Paul Parry selio'r fuddugoliaeth wedi 73 munud.
 |