BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 26 Mawrth 2006
Blog Dot.com

Trwy gydol Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne bydd gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Dot Rees, yn cadw mewn cysylltiad â darllenwyr Cymru'r Byd trwy ei blog.

Dot yn gweithio yn swyddfa'r BBC ym Melbourne

Ffarwelio â Melbourne
26 Mawrth 2006

Wel, mae'r gemau wedi dod i ben - am bythefnos ffantastic!

'Dwi'n edrych ymlaen at India yn barod, ond be os na gai fynd fel gohebydd? Mae'r holl gampau dwi wedi weld yma wedi gwneud i mi feddwl ... ond efallai mod i jyst heb ddod o hyd i'r camp iawn i fi eto.

Efallai bo medal aur yn perthyn i fi yn rhywle!

Nawr, 'dwi ddim yn gyflym, 'dwi methu taflu a 'dwi'n da i ddim yn y pwll nofio.

'Dyw saethu na bowls ddim yn apelio, ond fel merch ffarm, 'dwi'n eitha cryf!

'Dwi 'di helpu tynnu llo neu ddau ac wedi codi bales bach, felly un opsiwn fyddai codi pwysau.

Ond mae gen i syniad arall - tybed a fyddai gan y Gemau ddiddordeb mewn cyflwyno camp newydd?

Wedi blynyddoedd o ymladd gyda fy mrawd pan yn fach, y gamp perffaith wrth gwrs fyddai ... reslo!

Wela'i chi yn Delhi!

Diwrnod gwallt-gof!
22 Mawrth 2006

Nawr o'n i mynd i sôn am aur David Davies ac am ba mor emosiynol oedd pawb pan ennillodd e ... ond fe ddigwyddodd rhywbeth i fi yn lifft y gwesty sy'n coroni'r gemau i fi.

Fues i mewn lifft (o'r llawr gwaelod i'r chweched llawr) gyda Steve Ovett!

Nes i ddim ei nabod e i ddechre ... shwt 'wi'n dweud hyn heb fod yn greulon? Na, 'does dim ffordd caredig o ddweud bo rhywun di heneddio'n ofnadwy a bo golwg fel pechod arnyn nhw!

Mae e angen torri'i wallt e'n druenus. Ond falle bo fe'n meddwl run peth amdana i - 'do'n i heb gael amser i ddefnyddio'r straighteners yn iawn.

Felly ro'n i'n edrych fel rhywbeth fel Diana Ross (yn fideo Chain Reaction - ie, neis!) wedi ei groesi â Leo Sayer.

Ta beth, nôl at Steve Ovett. Oedd e eitha siaradus chwarae teg - wel, doedd dim llawer o ddewis ganddo, gan bo' fi'n taflu cwestiynau fel "nice hotel isn't it?" ac "I should have put some sunscreen on".

Ar ôl gosod y sylfaen fe benderfynais fynd amdani.

Penderfynais ofyn am ei lofnod! Ro'n i ar fin gwneud ... ro'dd y geiriau "my mother's a huge fan of yours" (er nad yw hi , roedd yn esgus dda!) ar fla'n fy nhafod pan ganodd ei ffôn symudol.

Am niwsans.

Ddigwyddodd hynna wrth i ni fynd heibio llawr pedwar ac fe arhosodd ar ei ffôn tan iddo fynd allan ar llawr chwech.

Fe golles i'r cyfle. Falle bod hi'n beth da i'r ffon ganu.

Gan ddibynnu shwt fydde'r gofyn am lofnod wedi mynd, ro'n i am gydio yn y camera.

Erbyn meddwl ro'dd e'n arwydd bod well peidio cael cofnod o 'bad hair day' y ddau ohono ni!

Aur o'r diwedd i Gymru
19 Mawrth 2006

Yr Aur ar ddiwrnod pedwar - wel, am ryddhad!
Ro'n i'n poeni bydde ni'n gefndryd tlawd i'r Alban am weddill y gemau!

Ry'n ni fel criw BBC Cymru yn rhannu ystafell gyda gohebwyr yr Alban, a fel allwch chi ddychmygu mae gwên lydan ar wynebau pob un ohonyn nhw.

Fues i lawr yn y pwll heno yn y gobaith o weld Tom Haffield (y David Davies newydd) yn ennill medal dros Gymru.

Fe oedd yr ail cyflymaf yn y ras ragbrofol ond unwaith eto noson yr Albanwyr odd hi - aur ac arian yn yr un ras.

Mae'n anodd peidio cenfigennu, ond fel wedodd un o'r criw caredig o BBC Glasgow, ma nhw'n cael y gemau gafodd Cymru ym Manceinion, hyd yn hyn.

Ta beth, 'dyw hunan-dosturi ddim yn helpu neb, felly dathlu aur Michaela yn y codi pwyasau ydw i heno, ac efallai na chafodd hi fedal ond roedd gweld Tracey Morris yn rhedeg mewn I'r MCG I orffen yn bedwerydd yn y marathon bron â dod a dagre i'm llygaid.

'Dyw hi heb hyd yn oed rasio mewn marathon ers Gemau Athen!

Dyna un peth sy'n taro chi am yr athletwyr sy'n cymryd rhan yn y triathlon a'r marathon, mae nhw mor ddiymhongar, a 'does neb yn gweithio'n galetach.

Ac mae nhw'n gwneud i'r cyfan edrych mor hawdd!

Fuodd hi'n bleser cyfweld â Marc Jenkins wedi iddo orffen yn 14eg yn y treiathlon ddoe.

Tipyn o gamp wedi 11mis heb gystadlu, yn ogystal a dioddef o salwch difrifol. Sut ma nhw'n llwyddo nofio, seiclo a rhedeg yn y gwres 'ma, 'dwi ddim yn gwybod.

Alla'i ddim hyd yn oed rhedeg i'r siop gornel heb fod angen i fi fynd i orwedd am awr mewn 'stafell dywyll wedi hynny!

'Dwi'n edrych ml'an i weld rywfaint o bocsio nawr hefyd.

Mae pawb sy 'di bod i'r ganolfan sy'n cynnal y cystadlu yn dweud bod hi'n werth mynd.

Mae'r Cymry yn gwneud yn dda hefyd, Kevin Evans a Jamie Creese drwodd yn barod ac mae'r dyn ei hun, Mohammed Nasir yn y cwrdd â Muhammed Nisar o Bacistan yn y rownd nesaf.

'Dwi ddim yn meddwl y byddai'n gwirfoddoli i sylwebu ar yr ornest yna!

Pawb ag achau Cymreig!
18 Mawrth 2006
Mae nhw'n galw'r Gemau yma'n Gemau Cyfeillgar, ac am enw addas o ran y croeso ma pawb yn gael gan drigolion Melbourne.

O'r dynion a'r merched sy'n gyrru'r tacsis, at yr heddlu a'r fyddin sy'n archwilio pawb tu fas i'r lleoliadau cystadlu.

Ma' pawb yn holi o ble 'dwi'n dod ac i bwy dwi'n gweithio, ac mae cymaint â straeon am Gymru.

Roedd un wedi cwrdd â Richard Burton unwaith tra ar wyliau yn America, un arall wedi bod ar ei wylie i Gei Newydd, a hyd yn oed un dynes yn cofio'i hen Mamgu o ardal Llambed (Laaaaaampeter iddi hi) yn siarad Cymraeg pan odd hi'n ferch fach!

'Doedd dim Cymreictod o gwbl yn perthyn iddi bellach ond ro'dd hi wrth ei bodd yn gwrando ar fy acen Sir Abertiefi innau a chofio am straeon ei hen Mamgu.

Ac mae'r Cymry wedi cael dechre da i'r Gemau 'ma.

Rhaid i fi gyfadde 'do'n i ddim yn siwr iawn am siwts swyddogol tîm Cymru pan welais i nhw gynta' - mae rhywbeth Robbie-Savage-aidd amdanyn nhw - ond ar noson y seremoni agoriadol pan gerddodd y tîm i mewn i'r stadiwm do'dd dim amheuaeth gen i mai Cymru odd yn haeddu'r aur am y wisg orau.

Roedd India'n ail agos gyda'u lliwiau llachar trawiadol.

Yr unig beth na'th sbwylio'r seremoni i fi oedd Dame Kiri yn canu penblwydd hapus i'r Frenhines - 'dyw Dame Kiri ddim hyd yn oed o Awstralia!

Trueni na fyddai'r trefnwyr wedi cael band Aussie sy'n debyg i Goldie Lookin Chain I gyfarch HRH ... nawr fydde hynny wedi deffro'r Tywysog Phillip!

Drannoeth, y pwll odd yn cael y sylw wrth i David Davies gipio'r efydd yn y 400m dull rhydd.

"Dechrau da Dai bach, ond gwell tro nesa plis''

Dyna'r neges gan ran helaeth y wasg. Am bwyse i roi ar 'sgwydde bachgen mor ifanc.

Nid dyna oedd ei ras gryfaf beth bynnag, ond ma David yn gwenud mwy i werthu ac i hybu Cymru yn Awstralia nag y gallai gwerth miliynau o bunnoedd o hysbysebu ar Channel 9 yma.

Mae o ym mhob papur, a phob un ohonyn nhw yn cydnabod ei Gymreictod.

Ychydig o orffwys nawr cyn ras y pymtheg cant. Tybed pa liw fydd y fedal nesa' i Mr Splash?

Cyfarfod y cymdogion
14 Mawrth 2006
Allwch chi gadw'ch Nicole Kidmans eich koalas a hyd yn oed eich kangaroos a'r Ty Opera, dim ond un peth 'dwi am weld yn Awstralia - Ramsay Street.

A heddiw, gwireddwyd y freuddwyd yn y modd mwya' afreal!

Wrth gyrraedd Stiwdios Grundy ar gyrion Melbourne feddylies i byth bydden i'n gadael dwy awr yn ddiweddarach wedi cwrdd â'r rhan helaeth o'r cast, 'di darllen y sgriptiau sydd i ddod, a 'di rhannu cinio 'da Harold a Lou!

Efallai es i bach dros ben llestri yn gofyn am gusan gan y ddau, a 'dwi ddim yn meddwl bod Stefan Dennis (Paul Robinson i chi'r ffans mas na) erioed wedi cael merch o Aberteifi yn cydio ynddo fe mor dyn!

Cyn i chi feddwl bo fi'n ferch fach od o gefn gwlad - odd hyn ar gyfer tynnu llun!

Fory mi fyddai yn mynd ag aelodau carfan saith bob ochr Cymru i gwrdd â fy mêts newydd! Mae Dr Karl hyd yn oed am fy nghyfarfod pan fydd e yng Nghaerdydd nesa!

Sori Mam, allai ddim dod adref penwythnos yma i helpu 'da'r cneifio, ma' Alan (Fletcher, ni ar enwau cynta'n barod) yn dod i aros.

I ddod â diwrnod perffaith i ben bues i'n cyfweld gobaith gorau Cymru am fedal aur yn y gemau, yr annwyl David Davies.

Ac i brofi pa mor berffaith yw'r crwt o'r Barri ... fe roddodd flaenoriaeth i gyfweliad Cymraeg o flaen holl gamerâu Lloegr ag Awstralia!

Mae'n anodd gor-ddweud yr argraff mae e wedi'i gael ar yr Aussies.

Mae ei lun ymhob papur ac mae wedi'i enwi gan un o brif ohebyddion chwaraeon Awstralia fel un o brif atynfeydd y gemau cyfan.

Chi 'mod be? Fydden i'n fodlon peidio gwylio Neighbours byth eto, dim ond i Dai Splash gael yr hyn mae e'n ei haeddu - y fedal aur.

Cwestiynau twp!
Ionawr 2006
A fydde ti'n rhydd i fynd i Gemau'r Gymanwlad blwyddyn nesa Dot?". Ie nawr, gadwch i fi feddwl am hyn ... Gemau'r Gymanwlad ... ym Melbourne ... ar ran BBC Cymru ...

"'Dwi'n meddwl alla'i ddod o hyd i fwlch yn y'n amserlen i ar gyfer un o'r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon diolch yn fawr bos!"

Wrth gwrs bo' fi'n rhydd!

Athletwyr gorau Cymru yn cael cystadlu dros eu gwlad yn erbyn goreuon y byd yn un o'r dinasoedd prydferthaf - ac yn ôl pob sôn, mae'n le ffantasig i siopa - a fi yn eu canol nhw ...

All hyd yn oed gobaith am ail Gamp Lawn i Gymru ddim fy nghadw i oddi ar yr awyren 'na - sori Mr Ruddock, ond fydd rhaid i Shane a Dwayne ymdopi hebdda'i ... mae Dai Splash yn galw!

David Davies o'r Barri, cafodd yr efydd yn Athen ac ym Mhencampwriaethau'r Byd ... tybed ai'r aur fydd hi dros Gymru ym Melbourne?

Wel 'wi 'di cynnig gofalu am ei goggles a golchi'r Speedos wrth iddo baratoi ar y Gold Coast cyn y Gemau ... ond yn anffodus ma'r awyren am y rhan 'na o Awstralia yn llawn yn barod.

Paid poeni Dai bach, welai di ym Melbourne ta beth.

Un peth 'wy'n benderfynol o 'neud tra ym Melbourne yw ymweld a set yr opera sebon 'Neighbours'.

Trist 'wy'n gwbod, ond hei, wy'n blentyn yr 80au ac yn berchen ar un o'r llyfrau 'annuals' 'na odd yn edrych ar y flwyddyn na'th Scott a Charlene briodi.

Be' ddigwyddodd i Bouncer gwedwch? A shwt ma Harold Bishop nol - fe ddiflannodd mewn i'r môr ym 1991, naddo fe?

Ta beth, os gaf i'n ffordd, fyddai 'di cwrdd â Dr Kennedy, bydd baner y Ddraig Goch tu cefn i'r bar yn Lassiters a, chyda tipyn bach o lwc, erbyn diwedd mis Mawrth, bydd Dai Splash yn dychwelyd â'r aur o Gemau Gymanwlad Melbourne 2006.



Cyfrannwch

Nan Hughes o Rhuddlan
Cefais air gan Poloko o Lesotho yn dweud eich bod yn dymuno'n dda iddo ar fy rhan carwn ddiolch yn fawr i chwi am yr ymdrech

Huw o Langefni
Ydi Steve Ovett yn byw yn Oz rwan? Roedd 'na dinc o Aussie y ei acen o ar y BBC nos o'r blaen.



Hoffech chi adael sylwadau neu ofyn cwestiwn i Dot?

Enw a lleoliad (e.e. Bryn Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy