BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 23 Medi 2010

Cymru yn hapus i fynd i Delhi

Mae swyddogion tîm Cymru wedi cadarnhau eu presenoldeb yng Ngemau'r Gymanwlad er gwaethaf pryderon ynglŷn â glendid a diogelwch yn India.

Milwr yn sefyll o flaen mynediad pentref y cystadleuwyr

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y swyddogion eu bod yn hapus gyda'r addewidion gan drefnwyr y Gemau bod yr holl gyfleusterau "mewn cyflwr addas".

Bydd y grŵp cyntaf o'r cystadleuwyr yn gadael am Delhi ddydd Sadwrn, gyda'r Gemau i agor yn swyddogol ar 3 Hydref.

"Bydd rhai o staff Tîm Cymru yn symud i'r llety nawr ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'n hathletwyr yn ystod y dyddiau nesa," meddai'r datganiad.

Codwyd amheuaeth ynglŷn â phresenoldeb Cymru yn dilyn pryderon ynglŷn â safon pentref y cystadleuwyr sydd wedi ei adeiladu yn bwrpasol ar gyfer y Gemau yn Delhi.

Yn wreiddiol yr oedd rheolwyr tîm Cymru, sydd wedi bod yn Delhi ers Medi 14, wedi datgan eu bodlonrwydd gyda'u cyfleusterau.

Ond penderfynodd y swyddogion ailasesu'r sefyllfa ar ôl i nifer o wledydd eraill feirniadu'r llety.

Cyflwr rhai o'r cyfleusterau i'r cystadleuwyr yn DelhiDaeth hyn wrth i'r BBC gyhoeddi lluniau o rai o'r cyfleusterau yn dangos ystafelloedd ymolchi budr, ôl traed anifeiliaid ar y gwelâu a gwaith trydanol heb ei orffen.

Safon glendid y pentref sy'n peri'r gofid mwyaf i dimau eraill, gyda rhai yn dweud bod y safle yn "afiach" a "chwbl anaddas ar gyfer fodau dynol".

Dwysau y gwnaeth y pryderon hynny pan gwympodd pont yn agos i'r brif stadiwm ddydd Mawrth gan anafu hyd at 23 o bobl.

Ac mewn datblygiad arall fe ddisgynnodd rhan o nenfwd yn y neuadd a fydd yn llwyfannu'r cystadlaethau codi pwysau ddydd Mercher.

Daeth pryderon ynglŷn â chyflwr pentref y cystadleuwyr i'r amlwg ddydd Mawrth wrth i swyddogion tîm Lloegr a'r Alban ddatgan eu hanfodlonrwydd.

Serch hynny, mae disgwyl i Loegr yrru eu cystadleuwyr cyntaf ddydd Iau ac mae'r Alban bellach wedi dweud eu bod hapusach gyda'r sefyllfa.

Ond mae un o brif athletwyr Lloegr, Phillips Idowu eisoes wedi tynnu allan gan nodi pryderon am ddiogelwch. Enillodd Idowu fedal aur yn y naid driphlyg yn Melbourne bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones ei fod yn fach iawn bod Tîm Cymru wedi penderfynu cymryd rhan yn y Gemau.

"Bu'n amser pryderus i bawb sydd ynghlwm wrth hyn i weld yr adroddiadau diweddar yn y cyfryngau o'r digwyddiadau yn Delhi ac er bod rhai problemau ar ôl, cafodd fy swyddogion eu cynghori y bydd y sefyllfa wedi'i ddatrys yn iawn ar gyfer dechrau'r Gemau ar y 3ydd Hydref," meddai mewn datganiad.

"Hoffwn longyfarch y rheini sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru. Byddaf yn ymweld â Delhi ar gyfer y seremoni agoriadol ac fel pawb arall yng Nghymru byddaf yn cefnogi'r tîm trwy'r Gemau. Rydw i'n dymuno pob hwyl iddyn nhw."


chwaraeon
Hanes y Gemau
Medalau Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy