 | Newidiwyd diwethaf: 23
Mai
2006
|
 |  |  | |  |  | Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Sweden ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp B:v Trinidad a Tobago 10 Mehefin 1700 BST, Dortmund
Paraguay v 15 Mehefin 2000 BST, Berlin
v Lloegr 20 Mehefin 2000 BST, Cologne
Er i Sweden golli yn erbyn Croatia ddwywaith yn ystod y gemau rhagbrofol, llwyddodd gwyr Lars Lagerback i orffen y grŵp yn gyfartal ar bwyntiau â Croatia ac osgoi gêm ail gyfle.
Hanes yng Nghwpan y Byd: O wlad mor fechan, mae gan Sweden record ddisglair iawn yng Nghwpan y Byd. Yn ogystal â chynnal y bencampwriaeth a chyrraedd y rownd derfynol ym 1958, maent wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ym 1950 a 1994.
Dyma fydd 11eg ymddangosiad y gwyr o Sgandinafia yng Nghwpan y Byd.
Sêr y tîm: Efallai nad yw Zlatan Ibrahimovic yn disgleirio cymaint ag yr oedd yn ystod tymor 2004/05, pan rhwydodd 16 gôl dros Juventus yn Serie A, ond mae'r gallu ganddo i ddisgleirio ar y lefel uchaf.
Ac, wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr â Barcelona, bydd Henrik Larsson yn llawn hyder, tra bydd chwaraewr canol cae Arsenal, Fredrik Ljungberg, yn awyddus i wneud y iawn am ei siom o golli yn erbyn y tîm o Gatalonia yn y rownd derfynol.
Barn BBC Cymru'r Byd: Bydd eu gêm â Lloegr yn holl bwysig gan bod y tîm fydd yn ennill y grŵp yn osgoi'r Almaen yn yr ail rownd. Petaent yn gallu curo Lloegr, gall Sweden fynd mor bell â rownd yr wyth olaf.
 |  |  |  |
| |