Methodd Y Swistir dri chic o'r smotyn, ond rhwydodd Artem Milevskiy, Serhiy Rebrov ac Oleg Gusev i o 12 llath i selio'r fuddugoliaeth hanesyddol.
Tarodd y ddau dîm y postyn yn ystod hanner cyntaf o gêm ddi-fflach yn Cologne.
Peniodd Andriy Shevchenko yn erbyn y trawst cyn i Alexander Frei daro cic rhydd yn erbyn y postyn i'r Swistir, ond wedi hynny, prin iawn oedd cyfleon y naill dîm a'r llall.
TIMAU
Y Swistir: Zuberbuhler, Djourou, Magnin, Muller,
Philipp Degen, Vogel, Cabanas, Wicky, Barnetta, Yakin, Frei.
Eilyddion: Benaglio, Margairaz, Behrami, Coltorti, David Degen,
Dzemaili, Grichting, Gygax, Lustrinelli, Senderos, Spycher,
Streller.
Wcrain: Shovkovskiy, Vashchuk, Nesmachniy, Tymoschuk, Shelayev, Gusev, Gusin, Kalinichenko, Voronin, Vorobey, Shevchenko.
Eilyddion: Pyatov, Yatsenko, Yezerskiy, Rebrov, Milevskiy, Nazarenko, Byelik, Rotan, Shust.
Dyfarnwr: Benito Archundia Tellez (Mecsico)