BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 14 Mehefin 2006
Sbaen 4-0 Wcrain

Llwyddodd Sbaen i chwalu 10-dyn Wcrain yn eu gêm agoriadol yng Nghwpa y Byd â pherfformiad arbennig yn y gwres yn Leipzig.


adroddiad i ddilyn
PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr Terfynol - Sbaen 4-0 Wcrain

80 mun: Gôl - Sbaen 4-0 Wcrain
Cafwyd gôl hyfryd i Fernando Torres yn dilyn gwaith gwych yng nghanol cae gan Carlos Puyol.

55 mun: Mae Luis Aragones yn penderfynu rhoi hoe i'w sgorwyr gan eilyddio Xabi Alonso a David Villa er mwyn gyrru Raul a David Albelda i'r maes.

47 mun: Gôl - Sbaen 3-0 Wcrain
I rwbio halen i'r briw i Wcrain, llwyddodd David Villa i rwydo o'r smotyn

46 mun: Cerdyn Coch: Vladislav Vashchuk
Mae'r dyfarnwr, Massimo Busacca o'r Swistir, wedi dfangos cerdyn coch hynod ddadleuol i Vladislav Vashchuk am drosedd honedig ar Fernando Torres yn y cwrt cosbi.

Hanner Amser: Sbaen 2-0 Wcrain

31 mun: Gwastraffodd Andriy Gusin gyfle da i'r Wcrain wrth daro cic hosan o ochr y cwrt cosbi yn syth i ddwylo Iker Casillas

17 mun: Gôl - Sbaen 2-0 Wcrain
Tarodd cic rydd David Villa y mur amddiffynol gan olygu nad oedd gobaith i Oleksander Shovkovsky rhwng y pyst i'r Wcrain wrth i Sbaen ddyblu eu mantais.

13 mun: Gôl - Sbaen 1-0 Wcrain
Xabi Alonso gafodd y gôl agoriadol i Sbaen â pheniad i'r rhwyd o gic cornel

4 mun: Crymanodd Ruslan Rotan gic rhydd i fewn i'r cwrt cosbi o'r ystlys chwith ond methodd Vladimir Yezerskiy â chadw ei beniad i lawr.

3 mun: Derbyniodd Sergio Ramos y bêl yng nghwrt cosbi Wcrain ond tarodd Xavi ei ergyd ymhell heibio'r postyn

NEWYDDION
Y newyddion mawr o Leipzig yw bod hyfforddwr Wcrain, Oleg Blokhin, wedi penderfynu cynnwys Andriy Shevchenko er bod yr ymosodwr 29-mlwydd-oed wedi bod allan ers mis ag anaf i'w ben-glin.

O ran Sbaen, bydd eu capten, Raul, yn dechrau'r gêm ar y fainc gyda Fernando Torres a David Villa yn y llinell flaen.

TIMAU

Sbaen: Casillas, Pernia, Puyol, Sergio Ramos, Pablo, Xavi, Alonso, Senna, Luis Garcia, Villa, Torres.

Eilyddion: Albelda, Antonio Lopez, Canizares, Fabregas, Iniesta, Joaquin, Juanito, Marchena, Raul, Reina, Reyes, Salgado.

Wcrain: Shovkovskiy, Nesmachniy, Yezerskiy, Rusol, Vashchuk, Tymoschuk, Gusev, Gusin, Rotan, Shevchenko, Voronin.

Eilyddion: Byelik, Chigrynskiy, Kalinichenko, Milevskiy, Nazarenko, Pyatov, Rebrov, Shelayev, Shust, Sviderskiy, Vorobey, Yatsenko.

Dyfarnwr: Massimo Busacca (Y Swistir)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy