Aeth Sbaen ar y blaen wedi 28 munud wrth i David Villa rwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd diangen gan Lilian Thuram ar Ibanez Pablo.
Ond daeth Ffrainc yn gyfartal pedwar munud cyn yr egwyl wrth i Franck Riberry gamu heibio Iker Casillas wedi casglu pas gelfydd Patrick Viera.
Gyda saith munud yn weddill, peniodd Vieira i gefn y rhwyd i dorri calonnau'r Sbaenwyr cyn i Zinedine Zidane dorri'n rhydd i rwydo gôl unigol hyfryd yn yr eiliadau olaf.
TIMAU
Sbaen: Casillas, Pablo, Puyol, Sergio Ramos, Pernia, Fabregas, Xavi, Alonso, Villa, Torres, Raul.
Eilyddion: Salgado, Marchena, Albelda, Reyes, Luis Garcia, Antonio Lopez, Iniesta, Senna, Joaquin, Canizares, Juanito, Reina.
Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery, Zidane, Makelele, Vieira, Malouda, Henry.
Eilyddion: Landreau, Boumsong, Dhorasoo, Govou, Wiltord, Silvestre, Saha, Givet, Diarra, Trezeguet, Chimbonda, Coupet.
Dyfarnwr: Roberto Rosetti (Yr Eidal)