BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 11 Mehefin 2006
Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd

Llwyddodd Yr Iseldiroedd i drechu Serbia a Montenegro â gôl gan Arjen Robben yn Leipzig yn yr ail gêm yng Ngrŵp C o Gwpan y Byd


> adroddiad y gêm

Sgôr Terfynol Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd

83 mun: Mae'r gwres yn golygu fod y gêm wedi arafu cryn dipyn ac er fod Yr Iseldiroedd yn canfod bylchau yn amddiffyn Serbia a Montenegro wrth iddynt geisio dod yn gyfartal, nid ydynt yn gallu manteisio.

77 mun: Crymanodd Arjen Robben cic rydd ar draws wyneb y gôl ond yn ffodus i Serbia a Montenegro, methodd unrhyw Iseldirwr â chysylltu â'r bêl.

71 mun: Methodd Nikola Zigic â chael peniad lan ar y bêl ac er i'r Iseldiroedd fethu â chlirio, ergyd wan gafwyd gan Ognjen Koroman.

68 mun: Mae Ruud van Nistelrooy yn gadael y maes er mwyn gwneud lle i Dirk Kuyt o Feyenoord.

66 mun: Serbia yn eilyddio eu trydydd chwaraewr wrth i Danijel Ljuboja ddod i'r maes yn lle Mateja Kezman

64 mun: Tarodd Dejan Stankovic gic rhydd o ochr y cwrt cosbi ymhell dros y trawst. Roedd disgwyl llawer gwell gan chwaraewr canol cae Inter Milan.

59 mun: Marco van Basten yn penderfynu eilyddio Mark van Bommel a dod â Denny Landzaat o AZ Alkmaar, i'r maes.

48 mun: Mae'r gwyr o Serbia a Montenegro ar dan ar ddecrau'r ail hanner gan bwyso am gyfnod hir yn chwilio am y gôl fyddai'n dod â hwy'n gyfartal.

46 mun: Ilija Petkovic yn dewis eilyddio Savo Milosevic gan ddod ag ymosodwr Red Star Belgrade, Nikola Zigic, i'r maes yn ei le.

Hanner Amser: Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd

37 mun: Gwnaeth Robin van Persie'n dda i gael ei hun yn rhydd o'r amddiffyn yng nghwrt cosbi Serbia a Montenegro, ond peniodd yn syth i ddwylo Dragoslav Jevric.

36 mun: Crymanodd Arjen Robben ergyd fodfeddi heibio'r postyn o ochr chwith y cwrt cosbi.

29 mun: Tarodd Mateja Kezman beniad heibio'r postyn o groesiad hyfryd gan Predrag Djordjevic o'r dde.

21 mun: Arbedodd Dragoslav Jevric yn wych o ergyd arall gan Arjen Robben

18 mun: Gôl - Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd
Llwyddodd Arjen Robben i guro'r trap camsefyll ac er i Goran Gavrancic geisio ei dynnu yn ôl gerfydd ei grys, llwyddodd Robben i sicrhau mai ef yw'r trydydd chwaraewr o Chelsea i sgorio yng Nghwpan y Byd hyd yma.

14 mun: Brwydrodd Savo Milosevic heibio Giovanni van Bronckhorst ar ochr y cwrt cosbi ond ergydiodd yn syth i ddwylo Edwin van der Sar.

12 mun: Dihangfa i'r Iseldiroedd wrth i Mateja Kezman a Savo Milosevic fyn ar draws eu gilydd wrth geisio am groesiad ar draws y cwrt bach.

1 mun: Cyffyrddiad cyfforddus cyntaf i golwr Serbia a Montenegro, Dragoslav Jevric, wrth iddo gasglu peniad Arjen Robben.

1355 BST: Ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Collins, sydd yn arwain y timau i'r maes yn ei rôl fel trefnydd gemau Cwpan y Byd yn Leipzig.

NEWYDDION
Bydd Goran Gavrancic yn chwarae i Serbia a Montenegro gan fod amddiffynnwr Manchester United, Nemanja Vidic, wedi ei wahardd.

O ran Yr Iseldiroedd, bydd Philip Cocu, Gio van Bronckhorst a Wesley Sneijder yn chwarae wedi iddynt basio profion ffitrwydd.

TIMAU

Serbia a Montenegro: Jevric, Dragutinovic, Gavrancic, Nenad Djordjevic, Krstajic, Duljaj, Stankovic, Predrag Djordjevic, Nadj, Kezman, Milosevic.

Eilyddion: Basta, Dudic, Ergic, Ilic, Koroman, Kovacevic, Ljuboja, Stojkovic, Vukic, Zigic.

Yr Iseldiroedd: Van der Sar, Heitinga, Mathijsen, Ooijer, Van Bronckhorst, Sneijder, Van Bommel, Cocu, Van Persie, van Nistelrooy, Robben.

Eilyddion: Babel, Boulahrouz, De Cler, Jaliens, Kromkamp, Kuyt, Landzaat, Maduro, Stekelenburg, Timmer, Van der Vaart, Vennegoor of Hesselink.

Dyfarnwr: Markus Merk (Yr Almaen)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy