Collodd y dyfarnwr, Valentin Ivanov o Rwsia, reolaeth ar y gêm wrth iddo chwifio cardiau fel conffeti gan ddod yn gyfartal â'r record yng Nghwpan y Byd am gardiau melyn mewn un gêm - 16 - a thorri'r record am gardiau coch.
Cafodd Deco a Costinha eu hel o'r maes i Bortiwgal, gyda Khalid Boulahrouz a Gio van Bronkhorst yn cael cawod cynnar i'r Iseldiroedd.
Daeth unig gôl y gêm wedi 23 munud wrth i Maniche daro chwip o ergyd i gornel ucha'r rhwyd, ond yn anffodus, y dyfarnwr fydd yn cael y sylw wedi ei berfformiad dadleuol.
TIMAU
Portiwgal: Ricardo, Nuno Valente, Ricardo Carvalho, Meira, Miguel, Maniche, Deco, Costinha, Figo, Pauleta, Ronaldo.
Eilyddion: Boa Morte, Caneira, Nuno Gomes, Paulo Ferreira, Paulo Santos, Petit, Postiga, Quim, Ricardo Costa, Simao, Tiago, Viana.
Yr Iseldiroedd: Van der Sar, Van Bronckhorst, Mathijsen, Ooijer, Boulahrouz, Cocu, Sneijder, Van Bommel, Robben, Kuyt, Van Persie.
Eilyddion: Babel, De Cler, Heitinga, Jaliens, Kromkamp,
Landzaat, Maduro, Stekelenburg, Timmer, Van der Vaart,
van Nistelrooy, Vennegoor of Hesselink.
Dyfarnwr: Valentin Ivanov (Rwsia)