Daeth y gôl agoriadol wedi chwe munud wrth i Olexandr Shovkovskiy fethu â dal ergyd o bell gan Gianluca Zambrotta.
Roedd angen i Gianluigi Buffon fod ar ei orau wedi 58 munud i arbed ergyd Oleg Gusev a llwyddodd Zambrotta i glirio ergyd Maksym Kalinmichenko oddi ar y llinell.
Ond o fewn munud roedd yr Eidalwyr wedi dyblu eu mantais wrth i Luca Toni droi croesiad Francesco Totti i'r rhwyd.
Seliwyd y fuddugoliaeth i'r Azzurri 10 munud yn ddiweddarach wrth i Toni rwydo ei ail gôl wedi pas odidog gan Zambrotta.
TIMAU
Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Barzagli, Grosso, Perrotta, Pirlo, Gattuso, Camoranesi, Toni, Totti.
Eilyddion: Amelia, Barone, Del Piero, Gilardino, Iaquinta, Inzaghi, Nesta, Oddo, Peruzzi, Zaccardo.
Wcrain: Shovkovskiy, Nesmachniy, Sviderskiy, Rusol, Tymoschuk, Shelayev, Gusev, Gusin, Kalinichenko, Milevskiy, Shevchenko.
Eilyddion: Byelik, Nazarenko, Pyatov, Rebrov, Rotan, Shust, Vashchuk, Vorobey, Voronin, Yatsenko, Yezerskiy.
Dyfarnwr: Frank De Bleeckere (Gwlad Belg)
TRIFIA
Mae'r ddwy wlad wedi cwrdd ar dair achlysur yn y gorffennol:
29 Maw 1995 - Wcrain 0-2 Yr Eidal (Ewro)
11 Tach 1995 - Yr Eidal 3-1 Wcrain (Ewro)
02 Meh 2006 - Wcrain 0-0 Yr Eidal (Lausanne) (Cyfeillgar)