Gyda'r gêm yn prysur ddirwyn i ben, llwyddodd Fabio Grosso i gamu i fewn i'r cwrt cosbi cyn disgyn dros yr amddiffynnwr, Lucas Neill.
Chwythodd y dyfarnwr, Luis Medina Cantalejo o Sbaen, am gic o'r smotyn a chadwodd Totti ei ben i rwydo â chic olaf y gêm.
Roedd Luca Toni wedi methu cyfleon cynnar i'r Eidal cyn i Marco Materazzi gael ei hel o'r maes yn yr ail hanner am drosedd ar Marco Bresciano.
Ond bydd y Socceroos yn flin na chymrodd nhw eu cyfleon cyn i Grosso ennill y cic o'r smotyn hwyr wrth i Tim Cahill a Bresciano fynd yn agos.
TIMAU
Yr Eidal: Buffon, Zambrotta, Cannavaro, Materazzi, Grosso, Del Piero, Perrotta, Gattuso, Pirlo, Gilardino, Toni.
Eilyddion: Zaccardo, Barzagli, Totti, Peruzzi, Amelia, Iaquinta,
Camoranesi, Barone, Inzaghi, Oddo, Nesta.
Awstralia: Schwarzer, Chipperfield, Neill, Moore, Culina, Wilkshire, Cahill, Grella, Bresciano, Sterjovski, Viduka.
Eilyddion: Popovic, Skoko, Kalac, Kennedy, Lazaridis, Covic, Aloisi, Beauchamp, Kewell, Thompson, Milligan.
Dyfarnwr: Luis Medina Cantalejo (Sbaen)
TRIFIA
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i'r ddwy wlad herio eu gilydd mewn gêm bêl-droed.
Cafodd cyn ymosodwr Yr Eidal, Christian Vieri, ei fagu yn Sydney, Awstralia ac mae ei frawd, Massimiliano Vieri, wedi cynrychioli Awstralia r lefel rhyngwladol.
Mae hyfforddwr Awstralia, Guus Hiddink, yn arwain tîm yng Nghwpan y Byd am y trydydd tro. Roedd wrth y llyw â'r Iseldiroedd ym 1998 a De Corea yn 2002.