Cafwyd dwy gôl gynnar gan Lukas Podolski i chwalu gobeithion Sweden a chafwyd halen yn y briw wrth i Teddy Lucic weld cerdyn coch wedi 35 munud.
Ond roedd gwaeth i ddod i'r gwyr o Scandinafia wrth i Henrik Larsson daro cic o'r smotyn ymhell dros y trawst yn ystod yr ail hanner.
Roedd Yr Almaen yn llawn haeddu eu buddugoliaeth gyda Podolski'n rhwydo wedi pedwar munud yn unig i setlo'r nerfau.
Ychwanegodd yr ymosodwr ail gôl wyth munud yn ddiweddarach wrth gasglu pas gelfydd Miroslav Klosse cyn rhwydo heibio Andreas Isaksson.
TIMAU
Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Metzelder, Mertesacker, Lahm,
Schweinsteiger, Frings, Ballack, Schneider, Podolski, Klose.
Eilyddion: Jansen, Huth, Kehl, Nowotny, Hanke, Neuville, Kahn,
Asamoah, Hitzlsperger, Borowski, Odonkor, Hildebrand.
Sweden: Isaksson, Alexandersson, Mellberg, Lucic, Edman,
Ljungberg, Linderoth, Kallstrom, Jonson, Ibrahimovic, Larsson.
Eilyddion: Nilsson, Anders Svensson, Alvbage, Hansson, Stenman,
Karl Svensson, Elmander, Andersson, Allback, Wilhelmsson,
Rosenberg, Shaaban.
Dyfarnwr: Carlos Eugenio Simon (Brasil)