Aeth Ariannin ar y blaen wedi Roberto Ayala gymryd mantais o farcio llac a phenio cic gornel Juan Riquelme i'r rhwyd wedi 49 munud.
Ond, gyda 10 munud yn weddill, peniodd Tim Borowski groesiad Michael Ballack i Miroslav Klose benio ei bumed gôl o'r twrnament.
Rhwydodd Yr Almaen eu pedwar cic o'r smotyn ond methodd Ayala ac Esteban Cambiasso i yrru'r tîm cartref drwodd.
TIMAU
Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Metzelder, Lahm, Schweinsteiger, Frings, Ballack, Schneider, Klose, Podolski.
Eilyddion: Asamoah, Borowski, Hanke, Hildebrand, Hitzlsperger, Huth, Jansen, Kahn, Kehl, Neuville, Nowotny, Odonkor.
Ariannin: Abbondanzieri, Sorin, Ayala, Coloccini, Heinze, Maxi, Gonzalez, Riquelme, Mascherano, Crespo, Tevez.
Eilyddion: Aimar, Burdisso, Cambiasso, Cruz, Cufre, Franco, Messi, Milito, Palacio, Saviola, Scaloni, Ustari.
Dyfarnwr: Lubos Michel (Slovacia)
TRIFIA
Maw'r ddau dîm wedi cwrdd 16 o weithiau yn y gorffennol gyda'r Almaenwyr yn ennill pump, Ariannin yn ennill saith a phedwar gêm gyfartal.
Maent wedi chwarae yn erbyn ei gilydd mewn pedair Cwpan y Byd, gan gynnwys rownd derfynol 1986 a 1990, ond daeth eu gêm ddiweddaraf yng Nghwpan y Conffederasiynau llynedd welodd y timau'n rhannu pedair gôl.
Kuranyi ac Asamoah gafodd goliau'r Almaen gyda Riquelme a Cambiasso yn rhwydo i Ariannin.