BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 15 Mehefin 2006
Lloegr 2-0 Trinidad a Tobago

Grŵp B yn fyw o Nuremberg.
Y gic gyntaf: 5.00BST

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr derfynol: Lloegr 2-0 Trinidad a Tobago

90 + 1 mun: Gôl - Lloegr 2-0 Trinidad a Tobago
Steven Gerrard yn sicrhau'r fuddugoliaeth gyda tharan o ergyd.

85 mun Rhaid i Loegr fod yn wyliadwrus ar ôl mynd ar y blaen. Daw Evans Wise ymlaen i'r maes yn lle Densill Theobald yn syth mae ei groesiad yn hedfan dros y trawst.

83 mun: Gôl - Lloegr 1-0 Trinidad a Tobago
O groesiad David Beckham o'r dde, mae Peter Crouch yn curo Brent Sancho gyda'i beniad yn rhoi Lloegr ar y blaen.

78 mun: Frank Lampard yn ergydio ar draws wyneb y gôl a does neb yno i orffen y symudiad.

74 mun: Rhediad da gan yr eilydd Cornell Glen, ond amddiffynnwr yn ei rwystro rhag ergydio.

74 mun: Mae Joe Cole yn gadael y maes gyda Stephen Downind yn dod ymlaen yn ei le.

69 mun: Mae Trinidad a Tobago yn gwneud eu newid cyntaf o'r gêm gyda Cornell Glen yn dod ymlaen yn lle Kenwyne Jones.

68 mun: O groesiad Beckham o'r dde, mae Crouch yn neidio yn uwch 'na Sancho ond yn penio dros y trawst.

60 mun: Mae cyflymder yr eilydd Aaron Lennon yn creu trafferthion i Trinidad a Tobago.

57 mun: Ond dyna yw cyfraniad olaf Owen, gyda Wayne Rooney yn dod i'r maes yn ei le. Daw Aaron Lennon hefyd ymlaen i'r maes yn lle Jamie Carragher.

55 mun: Michael Owen yn dod yn agos i Loegr gyda peniad yn dilyn cic rhydd Beckham.

54 mun: O groesiad Ashley Cole, mae Peter Crouch yn creu cyfle iddo'i hun ond yn ergydio dros y trawst.

Hanner amser: Lloegr 0-0 Trinidad a Tobago

45 + 1 mun: Mae John Terry yn cael gwared o'r bêl yn dilyn cornel Trinidad a Tobago. Ond nid yw gwaith capten Chelsea ar ben ac yntau'n gorfod crymanu'r bêl wrth i Stern John geisio orfodi'r bêl dros y llinell.

44 mun: Mae Peter Crouch yn gwastraffu cyfle da i Loegr, ond mae'n gwneud smonach o'i foli yn dilyn croesiad Beckham.

36 mun: Croesiad Yorke yn creu problemau i Paul Robinson ac amddiffyn Lloegr, ac ar y postyn pellaf mae Stern John yn penio modfeddi heibio'r psotyn.

35 mun: O gic rhydd Dwight Yorke, mae'n rhaid i Rio Ferdinand benio dros y trawst ac ildio cornel.

34 mun: Mae Frank Lampard yn canfod ei hun mewn digon o le yn y canol ac yn ergydio modfeddi heibio'r postyn.

32 mun: Steven Gerrard sydd yn cynnig o bell y tro hwn, ond mae ei ergyd yn bell dros y trawst.

27 mun: Mae Peter Crouch yn creu problemau yng nghwrt Trinidad a Tobago, ond mae Michael Owen a Frank Lampard yn methu manteisio ac mae Cyd Gray yn llwyddo i gael gwared o'r perygl.

24 mun: Cyn chwaraewr Wrecsam, Carlos Edwards gyda ergyd o bell i Trinidad a Tobago.

20 mun:Mae Steven Gerrard yn cael ei lorio gan Aurtis Whitley a Lloegr yn ennill cic rhydd. Mae Beckham yn canfod Peter Crouch, ond mae'n penio dros y trawst ar ôl dod o dan bwysau gan Lawrence.

19 mun: Mae mur amddiffynnol Trinidad a Tobago yn rhwystro cic rhydd David Beckham.

16 mun: Gwir gyfle cyntaf Lloegr, gyda croesiad Joe Cole yn canfod Peter Crouch ar y postyn pellaf sydd yn ymestyn ond yn cael ei rwystro gan Shaka Hislop.

12 mun: Mae Joe Cole yn ennill cic gornel i Loegr, ac mae amddiffynnwr Wrecsam yn gwneud gwaith da i rwystro Peter Crouch.

6 mun: Hislop yn methu dal ergyd Frank Lampard, ond yn ffodus iddo ef dyw Michael Owen methu gwneud dim gyda'r bêl rydd.

2 mun: Jamie Carragher gyda chynnig gyntaf y gêm, ond dyw ei ergyd ddim yn trafferthu Shaka Hislop.

NEWYDDION

Mae ymosodwr Lloegr, Wayne Rooney yn holliach i wynebu Trinidad a Tobago ar ôl cael ei asesu gan arbenigwyr annibynnol.

Bydd Lloegr yn sicrhau eu lle yn y rownd nesaf os ydynt yn fuddugol yn Nuremberg.

Mae disgwyl y bydd Jamie Carragher yn cymryd lle Gary Neville yn safle'r cefnwr dde, tra bod disgwyl i golwr Trinidad a Tobago, Shaka Hislop fod yn holliach.

TIMAU

Lloegr: Robinson, Carragher, Terry, Ferdinand, Ashley Cole, Beckham, Lampard, Gerrard, Joe Cole, Owen, Crouch.
Eilyddion: Rooney, Campbell, James, Bridge, Hargreaves, Jenas, Carrick, Lennon, Downing, Carson, Walcott, Neville.

Trinidad & Tobago: Hislop, Edwards, Sancho, Lawrence, Gray, Birchall, Whitley, Yorke, Theobald, Stern John, Jones.
Eilyddion: Cox, Latapy, Samuel, Glen, Wise, Charles, Scotland, Ince, Wolfe, Andrews, Jack.

Dyfarnwr: Toru Kamikawa (Japan).


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy