Collodd Lloegr eu capten, David Beckham, yn yr ail hanner oherwydd anaf a chafodd Wayne Rooneuy ei hel o'r maes wedi 62 munud am sathru ar Ricardo Carvalho.
Brwydrodd LLoegr yn ddewr â 10-dyn ac ar brydiau roeddent yn creu mwy o gyfleoedd na Phortiwgal.
Ond mewn canlyniad oedd yn atgoffa dyn o bencampwriaeth Ewro 2004, Ricardo oedd yr arwr wrth iddo arbed ciciau Frank Lampard, Steven Gerrard a Jamie Carragher o'r smotyn i yrru Lloegr adref a Phortiwgal drwodd.
PRIF DDIGWYDDIADAU
Ciciau o'r smotyn
Mae Cristiano Ronaldo yn rhwydo ac yn gyrru Portiwgal drwodd i'r rownd gynderfynol wrth rwydo yng nghornel ucha'r rhwyd
Lloegr 1-3 Portiwgal
Mae Ricardo yn arbed cic Jamie Carragher i roi Portiwgal ar drothwy'r rownd gynderfynol
Lloegr 1-2 Portiwgal
Mae Portiwgal yn ôl ar y blaen wrth i Helder Postiga rwydo
Lloegr 1-2 Portiwgal
Mae Ricardo yn cadw Portiwgal yn y gêm wrth arbed cic Steven Gerrard
Lloegr 1-1 Portiwgal
Mae Portiwgal yn methu eu hail cic o'r smotyn wrth i Petit yrru'r bêl heibio'r postyn
Lloegr 1-1 Portiwgal
Bu bron i Ricardo arbed cic Owen Hargreaves ond crafodd y bêl i gornel y rhwyd
Lloegr 1-1 Portiwgal
Methodd Hugo Viana â dyblu mantais Portiwgal wrth iddo daro'r postyn
Lloegr 0-1 Portiwgal
Llwyddodd Ricardo i arbed cic Frank Lampard
Lloegr 0-1 Portiwgal
Wedi cryn oedi ar ddechrau'r ciciau o'r smotyn rhwydodd Simao â'r cic gyntaf
Lloegr 0-1 Portiwgal
Sgôl Terfynol Lloegr 0-0 Portiwgal
120 +1 mun: Methodd Maniche â chic olaf y gêm wrth iddo ergydio'n wyllt a tharo'r bêl i rhes Z o'r eisteddle!
120 mun: Yn yr eiliasdau olaf bu rhaid i'r eilydd, Jamie Carragher, fod yn effro i droi croesiad allan am gic cornel.
115 mun: Wedi Portiwgal gadw meddiant yn amyneddgar ar ochr cwrt cosbi Lloegr, gwastraffwyd y cwbwl ag ergyd wyllt gan Petit aeth ymhell dros y trawst
108 mun: Llwyddodd Helder Postiga i rwydo ond tra bo Portiwgal yn dathlu cafodd y gôl ei gwrthod am fod yr ymosodwr yn camsefyll.
106 mun: Roedd angen tacl wych yn y cwrt cosbi gan Nuno Valente i atal Aaron Lennon.
Hanner Amser - Amser Ychwanegol - Lloegr 0-0 Portiwgal
101 mun: Mae Lloegr yn creu digon o gyfleoedd ac mae'n anodd coelio mai hwy sydd â 10 dyn. Methodd Peter Crouch fanteisio ar groesiad Gary Neville a llwyddodd Portiwgal i glirio unwaith eto.
98 mun: Mae Steven Gerrard yn gawr yng nghanol cae i Loegr a bu bron i'r dim iddo greu gôl i'r Saeson wrth iddo groesi at Crouch yn y cwrt bach ond llwyddodd Miguel i amddiffyn yn ddewr
91 mun: Mae Portiwgal yn cadw meddiant am gyfnod maith ar ochr cwrt cosbi Lloegr ond yn y diwedd fe wastraffwyd y cyfle wrth i Petit daro ergyd ymhell dros y trawst
Lloegr 0-0 Portiwgal
Bydd angen hanner awr ychwanegol i geisio canfod buddugwr wrth i'r 90 munud orffen heb gôl.
89 mun: Mae Lloegr yn gorffen y 90 munud ar dân gyda Owen Hargreaves yn dawnsio heibio amddiffynwyr Portiwgal cyn croesi i'r cwrt cosbi ond methodd John Terry a chyrraedd y bêl.
85 mun: Mae Phil Scolari yn profi unwaith eto nad yw'n ofn gwneud penderfyniadau dadleuol wrth iddo eilyddio Figo a gyrru Helder Postiga i'r maes
83 mun: Mae Lloegr wedi creu mwy o gyfleoedd ers mynd i lawr i 10 dyn na chafwyd trwy gydol yr hanner agoriadol. Er hynny, mae Portiwgal yn parhau i edrych yn beryg tra'n gwrthymosod.
81 mun: Cic rydd i Loegr wedi Aaron Lennon gael ei lorio ond gyda David Beckham wedi anafu mae cryn ddadlau pwy fydd yn cymryd y gic. Frank Lampard sydd yn ei tharo ac roedd angen dwy arbediad gan Ricardo i gadw Lloegr rhag sgorio.
77 mun: Roedd angen arbediad campus gan Paul Robinson o ergyd gelfydd Figo wrth i Bortiwgal geisio defnyddio eu mantais niferoedd
70 mun: Rhediad campus i lawr y dde gan Owen Hargreaves ond mae croesiad y Cymro o Ganada yn rhy drwm ac yn mynd allan am gic gôl.
61 mun: Cerdyn Coch - Wayne Rooney (Lloegr):
Mae Lloegr i lawr i ddeg dyn wedi Rooney sathru ar Ricardo Carvalho yng nghanol cae
58 mun: Dawnsiodd Aaron Lennon heibio tri amddiffynnwr yn y cwrt cosbi cyn pasio'r bêl yn sgwar ond methodd Wayne Rooney ei gic a tharodd Joe Cole y bêl ymhell dros y trawst
51 mun: Mae Aaron Lennon wedi dod i'r maes i gymryd lle David Beckham sydd wedi anafu.
47 mun: Carlamodd Cristiano Ronaldo i lawr yr asgell chwith gan gamu dros y bêl tro ar ôl tro, ond nid oedd y dyfarnwr eisiau gwybod pan ddisgynodd i'r llawr yn ddramatig.
Hanner Amser: Lloegr 0-0 Portiwgal
45 mun: Llwyddodd Ricardo i arbed ergyd Frank Lampard o bell wrth i'r dyfarnwr cynorthwyol ddynodi bydd munud o amser ychwanegol.
43 mun: Cerdyn melyn i Petit am dacl fler ar ochr y cwrt cosbi, ond tarodd David Beckham y cic rydd yn syth i'r mur amddiffynol
35 mun: Llwyddodd Ashley Cole i ganfod Steven Gerrard â phas hyfryd i lawr yr asgell chwith ond nid oedd yr un crys gwyn yn y cwrt cosbi i dderbyn croesiad y Sgowsar.
27 mun: Mae Fernando Meira yn llwyddo i gadw Wayne Rooney yn ddistaw wrth i'r ddau dîm fethu â chanfod y gôl agoriadol holl bwysig.
21 mun: Methodd Frank Lampard a chyrraedd croesiad David Beckham yn y cwrt cosbi, ond mae Lloegr yn dechrau pwyso..
14 mun: Portiwgal yn ennill cic rhydd arall wrth i Figo ddisgyn i'r llawr yn llawer rhy hawdd o dan bwysau gan Owen Hargreaves - mae chwaraewyr Lloegr yn dechrau mynd yn rhwystredig ag actio Portiwgal yn barod.
16 mun: Cyfle gwych i Loegr wrth i Frank Lampard dynnu'r bêl yn ôl ar draws cwrt bach Portiwgal ond llwyddodd yr amddiffyn i glirio.
13 mun: Methodd Joe Cole a chlirio ond tarodd Maniche ei ergyd yn erbyn amddiffynnwr.
11 mun: Dihangfa i Loegr wrth i Paul Robinson ddwyn y bêl oddi ar droed Tiago wedi cic rhydd Figo daro pen glin Gary Neville yn y cwrt bach
8 mun: Trodd Wayne Rooney'n gelfydd ar ochr y cwrt cosbi cyn ergydio ond llwyddodd Ricardo i'w arbed yn gyfforddus
TRIFIA
Nid yw Portiwgal wedi colli gêm gystadleuol ers rownd derfynol Ewro 2004 - 18 gêm yn ôl.
Chwaraeodd chwech o garfan Portiwgal yn yr Arena AufSchalke yn Gelsenkirchen pan enillodd FC Porto Gynghrair y Pencampwyr yn erbyn Monaco yn 2004.
Nid yw Wayne Rooney erioed wedi sgorio gôl yng Nghwpan y Byd, hyd yn oed mewn gemau rhagbrofol.
TIMAU
Lloegr: Robinson, Neville, Terry, Ferdinand, Ashley Cole, Hargreaves, Beckham, Gerrard, Lampard, Joe Cole, Rooney.
Eilyddion: Campbell, James, Bridge, Carragher, Jenas, Carrick, Lennon, Downing, Crouch, Carson, Walcott.
Portiwgal: Ricardo, Miguel, Meira, Ricardo Carvalho,
Nuno Valente, Figo, Maniche, Petit, Tiago, Ronaldo, Pauleta.
Eilyddion: Paulo Ferreira, Caneira, Ricardo Costa, Viana, Simao,
Quim, Boa Morte, Nuno Gomes, Paulo Santos, Postiga.
Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)