BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 04 Mai 2006
Croatia
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Croatia ar gyfer Cwpan y Byd 2006


News imageGemau Grŵp F:

v Brasil
13 Mehefin 2000 BST, Berlin

v Siapan
18 Mehefin 1400 BST, Nuremburg

v Awstralia
22 Mehefin 2000 BST, Stuttgart



Dyma fydd y pumed tro i Croatia gyrraedd un o prif bencampwriaethau'r byd ers i'r gymdeithas bêl-droed gael ei ffurfio ym 1994 - camp enfawr i wlad sydd â phoblogaeth o lai na phum miliwn.

Wedi methu â chamu ymhellach na'r rownd gyntaf o Ewro 2004, cymrodd Zlatko Kranjcar yr awenau gan sefydlu ysbryd gwych yn y garfan.

Llwyddodd Croatia i orffen ar frig Grŵp 8 yng ngemau rhagbrofol Ewrop, heb golli'r un gêm.

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Ym 1998, llwyddodd Croatia i synnu'r byd pêl-droed trwy orffen yn drydydd ar eu hymddangosiad cyntaf erioed yn y gystadleuaeth.

Er eu bod wedi cystadlu o dan faner Yugoslavia ar wyth achlysur, 1998 oedd y tro cyntaf erioed iddynt gystadlu fel gwlad annibynnol.

Ond cawsant siom yn Siapan a Chorea yn 2002 wedi iddynt fethu â chamu ymlaen o'r rownd agoriadol wedi colli yn erbyn Mecsico a'r Eidal.

Sêr y Tîm:
Dado Prso yw prif ymosodwr Croatia a thra'n wych yn yr awyr ac yn arbennig am gadw'r bêl yn fyw i'w gyd chwaraewyr, mae amheuaeth am ei ffitrwydd oherwydd sawl anaf i'w ben-glin.

Rhwydodd Darijo Srna, sydd yn chwarae i glwb Shakhtar Donetsk yn yr Ukraine, bum gôl yn y gemau rhagbrofol, ac mae'r asgellwr yn allweddol i lwyddiant y tîm.

Mae ei allu â chiciau gosod yn fygythiad i unrhyw dîm ond mae'n weithgar tu hwnt gan amddiffyn â'r un awch ac mae'n ymosod.

Barn BBC Cymru'r Byd:
Y gêm ag Awstralia fydd y gêm bwysicaf yn y rownd agoriadol wrth i'r ddwy wlad frwydro am yr hawl i orffen yn ail i Frasil yng Ngrŵp F.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy