Roedd Zidane yn rheoli'r gêm o ganol cae ond er iddo ysbrydoli ei dîm methodd Les Bleus a chreu cyfle clir yn yr hanner cyntaf.
Ond newidiwyd hynny wedi'r awr wrth iddo godi cic rhydd i fewn i'r cwrt cosbi a charlamodd Henry'n llechwraidd i'r postyn pellaf i rwydo foli godidog.
Llwyddodd Fabien Barthez i arbed ergyd hwyr gan Ronaldo a gwelodd Ronaldhino ei gic rhydd yn hedfan dros y trawst wrth i Ffrainc sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol lle byddent yn wynebu Portiwgal.
TIMAU
Brasil: Dida, Cafu, Lucio, Juan, Carlos, Juninho, Silva,
Ze Roberto, Kaka, Ronaldinho, Ronaldo.
Eilyddion: Adriano, Cicinho,
Cris, Emerson, Fred, Gilberto, Julio Cesar, Luisao, Mineiro,
Ricardinho, Robinho, Rogerio.
Ffrainc: Barthez, Sagnol, Thuram, Gallas, Abidal, Ribery,
Makelele, Vieira, Zidane, Malouda, Henry.
Eilyddion: Boumsong,
Chimbonda, Coupet, Dhorasoo, Diarra, Givet, Govou, Landreau,
Saha, Silvestre, Trezeguet, Wiltord.
Dyfarnwr: Luis Medina Cantalejo (Sbaen)