| Yr Archentwyr oedd y ffefrynau clir cyn y gêm yn yr ail rownd, ond fe'u synwyd wedi pum munud yn unig wrth i Mario Mendez benio cic rhydd Pavel Pardo i lwybr Rafael Marquez i rwydo'r gôl agoriadol.
Ond, roedd Ariannin yn gyfartal o fewn munud wrth i Jared Borgetti droi'r bêl i'w rwyd ei hun o dan bwysau gan Hernan Crespo.
Cafwyd eiliad ddadleuol i orffen yr hanner cyntaf wrth i Gabriel Heinze dderbyn cerdyn melyn yn unig wedi iddo lorio Francisco Fonseca er mai ef oedd yr amddiffynnwr olaf.
A chafwyd diweddglo dadleuol i'r 90 munud hefyd wrth i'r dyfarnwr cynorthwyol nodi fod Pablo Aimar yn camsefyll cyn i Lionel Messi rwydo'r bêl, er fod lluniau teledu yn profi nad oedd hyn yn wir.
Ond yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol cafwyd gôl arbennig i selio'r fuddugoliaeth wrth i Maxi Rodriguez reoli croesiad Juan Pablo Sorin ar ei fron cyn taro chwip o ergyd i gornel y rhwyd
Bydd Ariannin yn camu ymlaen i wynebu Yr Almaen yn rownd yr wyth olaf.
 |