SÊR
Ar ddechrau mis Mehefin daeth dros 700 o chwaraewyr i'r Almaen ac roedd disgwyl byddai o leiaf un ohonynt yn sefyll ben ac ysgwyddau'n uwch na'r gweddill fel seren y gystadleuaeth.
Cafwyd eiliadau o athrylith gan yr Archentwr, Juan Riquelme, yn ystod y grwpiau agoriadol, ond prin iawn oedd ei gyfraniad wrth i Ariannin fynd allan o'r gystadleuaeth yn rownd yr wyth olaf.
Roedd disgwyl mai dyma fyddai pencampwriaeth Ronaldinho, ond gyda Brasil yn methu tanio, ni chafwyd cyfraniad arbennig gan ymosodwr Barcelona.
Yn wir, daeth y perfformiadau gorau gan rhai o hen bennau'r gystadleuaeth; Fabio Cannavaro o'r Eidal, sy'n 32, Zinedine Zidane o Ffrainc, sy'n 34 a'r Eidalwr 29 mlwydd-oed, Gianluca Zambrotta.
Felly, yn wahanol i 1986 pan lwyddodd Diego Maradonna i gadarnhau ei statws fel chwaraewr gorau'r byd, neu 1998 pan lwyddodd Ronaldo i wneud ei farc, ni chafwyd seren newydd i'r byd pêl-droed.
GOLIAU
Dim ond chwe munud oedd rhaid disgwyl am gôl fendigedig yn y bencampwriaeth wrth i Philip Lahm grymanu'r bêl i gefn y rhwyd yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth rhwng Yr Almaen a Costa Rica.
Wedi hynny cawsom lu o goliau gwych gyda gôl fendigedig welodd 24 pas cyn i Esteban Cambiasso rwydo i Ariannin yn erbyn Serbia a Montenegro yn coroni'r cyfan.
Cawsom llai o'r goliau arbennig wedi'r grwpiau ond cafwyd clasur arall gan Ariannin wrth i Maxi Rodriguez reoli'r bêl ar ei frest cyn taro foli odidog heibio golwr Mecsico yn yr ail rownd.
Ac er bod llywydd Fifa yn credu bod angen mwy o goliau, roedd digon yn y pythefnos cyntaf i blesio pob cefnogwr pêl-droed.
EILIADAU COFIADWY
Pa luniau teledu fydd cefnogwyr pêl-droed y dyfodol yn cofio o'r Almaen 2006?
Pa luniau fydd yn cael eu lle ochr-yn-ochr â lluniau triciau Johann Cruyff ym 1974, gôl Diego Maradona o 1986 neu ddagrau Gazza a dathliadau Roger Milla ym 1990?
Cawsom Jurgen Klinsmann yn dathlu fel cefnogwr pob tro sgoriodd Yr Almaen ac roedd llun hyfryd o Deco, Khalid Boulahrouz a Gio van Bronkhorst yn eistedd gyda'i gilydd wedi cael eu hel o'r maes gan y dyfarnwr o Rwsia, Valentin Ivanov yn ystod gêm Portiwgal a'r Iseldiroedd.
Ond bu rhai disgwyl tan y munudau olaf o'r bencampwriaeth am yr un eiliad bythgofiadwy wrth i Zinedine Zidane golli ei ben yn llwyr a phenio Marco Materazzi yn ei frest yn ystod amser ychwanegol y rownd derfynol.
 |