 | Newidiwyd diwethaf:
31 Mai 2006 |
 |  | Absennol o Gwpan y Byd 31 Mai 2006
|  |  |
 |  |  | |  |  | gan Gary Pritchard
Bydd Cwpan y Byd 2006 yn gweld rhai o gewri'r byd pêl-droed yn eistedd adref yn gwylio'r gemau ar y teledu yn hytrach na chamu i'r maes yn Yr Almaen.
Felly dyma fynd ati i ddwyn perswâd ar Fifa i ganiatáu tîm Gweddill y Byd i gymryd un lle yn rowndiau terfynol pob Cwpan y Byd.
Er mwyn chwarae dros Weddill y Byd, mae'n rhaid bod eich gwlad wedi methu â chyrraedd y rowndiau terfynol, felly nid oes lle i Shaun Wright-Phillips, Edgar Davids na Robert Pires yn ein tîm.
Mae'n debyg na fyddwch yn cytuno â dewis yr hyfforddwr (fi), felly mae croeso i chi yrru eich hoff XI isod.
GOLWR1. Shay Given, Gweriniaeth Iwerddon, golwr Mae Given wedi cael tymor arbennig â Newcastle United a chafodd ei ddewis yn nhîm y tymor ar gyfer Uwchgynghrair Lloegr gan ei gyd chwaraewyr. Ond ni fydd Given yng Nghwpan y Byd wedi Iwerddon orffen yn bedwerydd mewn grŵp oedd yn cynnwys Ffrainc a'r Swistir. AMDDIFFYNWYR2. Lauren, Camerŵn, cefnwr dde Nid yw Lauren wedi chwarae dros ei wlad ers ffraeo â'r tîm rheoli yn ystod Cwpan y Byd 2002, ond petai amddiffynnwr Arsenal yn gwella mew pryd, byddai'n sicrhau ei le yn ein tîm.
4. Sammi Hyypia, Y Ffindir, amddiffynnwr canol Wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr yn 2005, roedd Hyypia yn allweddol wrth iddo chwarae 55 o gemau i Lerpwl wrth i'r Cochion gipio Cwpan FA Lloegr a gorffen yn drydydd yn yr Uwchgynghrair tymor diwethaf.
Gorffennodd Y Ffindir yn bedwerydd mewn grŵp oedd yn cynnwys Yr Iseldiroedd a'r Weriniaeth Siec.
5. Daniel van Buyten, Gwlad Belg, amddiffynnwr canol Mae capten Hamburg SV wedi cael tymor bendigedig yn y Bundesliga gan arwain y Rothosen i Gynghrair y Pencampwyr wrth iddynt orffen yn drydydd tu ôl i Bayern Munich a Werder Bremen.
Cafodd Gwlad Belg gyfnod siomedig wrth geisio am le yng Nghwpan y Byd gan orffen tu ôl i Bosnia Herzegovina yn ogystal â Sbaen a Serbia a Montenegro.
3. John Arne Riise, Norwy, cefnwr chwith Riise sydd â'r record am y gôl gyflymaf yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn Lloegr wedi iddo rwydo wedi 45 eiliad yn unig yn erbyn Chelsea yn 2005. Ac wedi methu cic o'r smotyn yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2005, roedd wrth ei fodd i rwydo o'r smotyn yn erbyn West Ham yng Nghwpan yr FA tymor diwethaf.
Wedi gorffen yn ail tu ôl i'r Eidal, collodd Norwy 2-0 yn erbyn Y Weriniaeth Siec yn y gemau ail gyfle.
CHWARAEWYR CANOL CAE11. Ryan Giggs, Cymru, asgellwr chwith Wrth gwrs, nid oes angen eglurhad pam fod Giggs yn haeddu ei le yn nhîm gweddill y byd. Mae'n anffodus nad yw Cymry fel Ian Rush, Neville Southall, Kevin Ratcliffe a John Toshack erioed wedi chwarae ar y lefel uchaf un, ond dyma gyfle Giggs!
6. John Carew, Norwy, asgellwr dde Er mai fel ymosodwr mae Carew wedi chwarae i Norwy, rydym wedi ei gynnwys yn ein tîm ar yr asgell dde. Llwyddodd Carew i ennill Ligue 1 yn Ffrainc â'i glwb Olympique Lyonnais yn ogystal â chyrraedd rownd yr wyth olaf o Gynghrair y Pencampwyr.
7. Thomas Gravesen, Denmarc, canol cae Ers i López Caro gymryd yr awenau â Real Madrid, mae gyrfa Gravesen yn y Bernabéu wedi blodeuo. Ymunodd y gŵr o Ddenmarc â Real o Everton ym mis Ionawr 2005, ond nid oedd yn ffefryn gan y cyn hyfforddwr, Vanderlei Luxemburgo.
Gorffennodd Denmarc yn drydydd yn eu grŵp rhagbrofol tu ôl i'r Wcrain a Thwrci.
YMOSODWYR8. John Obi Mikel, Nigeria, ymosodwr Mae'r ymosodwr ifanc yng nghanol ffrae rhwng Manchester United a Chelsea ynghylch ei drosglwyddiad o glwb Lyn Oslo o Norwy. Ond er ei fod heb chwarae ers sawl mis, llwyddodd i serennu yng Nghwpan Gwledydd Affrica yn yr Aifft ym mis Ionawr.
Synnwyd y byd pêl-droed wrth i Nigeria orffen tu ôl i Angola yng ngrwpiau rhagbrofol Affrica gan golli Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1990
9. Samuel Eto'o, Camerŵn, ymosodwr Llwyddodd Eto'o i rwydo wrth i Barcelona drechu Arsenal yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ac mae methiant Camerŵn i gyrraedd Cwpan y Byd - gorffennodd les Lions Indomptables tu ôl i Cote d'Ivoire yng ngemau rhagbrofol Affrica - yn golygu na fydd ymosodwr gorau'r byd yn Yr Almaen.
10. Diego Forlan, Wrwgwai, ymosodwr Mae cyn ymosodwr Manchester United wedi cael modd i fyw ers symud i Villareal yn Sbaen. Yn nhymor 2004/05, Forlan oedd prif sgoriwr La Liga gyda 25 gôl a llwyddodd i helpu'r tîm i rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr tymor diwethaf.
Methodd Wrwgwai â sicrhau eu lle yn Yr Almaen wedi iddynt golli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Awstralia mewn gêm ail gyfle.
 |  |  |  |
 |  | Alex o Fanceinion Ni fydd Giggs ar gael ar gyfer y gem hon. Mae o wedi cael anaf. Dic o Gapel Curig Ew! John Carew ar yr asgell. Welis i rioed gawr mor fawr yn fflio lwar y wing. Sentar fforward fuodd Carew rioed - mwy o Wyn Davies na Ryan Giggs myn uffar Carl Robinson Carl Robinson? Cynyr o Langrannog Be am Paul Trollope????!!!!!
|  | |
| |