BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 08 Mehefin 2006
1978: Yr Ariannin

Llwyddodd Yr Ariannin i ennill Cwpan y Byd ar eu tomen eu hunain, 48 mlynedd wedi iddynt gystadlu am y tro cyntaf, ond roedd y bencampwriaeth yn un dadleuol ar y maes ac oddi ar y maes.

Lleoliad Yr Ariannin Yr Ariannin
Timau 16
Pencampwyr Yr Ariannin Yr Ariannin
Prif Sgoriwyr Mario Kempes Yr Ariannin
6 gôl

Dwy flynedd cyn y bencampwriaeth cafwyd chwyldro yn y wlad welodd y fyddin yn dwyn grym.

Roedd nifer o wledydd yn cwestiynu os dylent gymryd rhan yn y bencampwriaeth, ond yn y diwedd dim ond seren yr Iseldiroedd, Johan Cruyff, wrthododd â theithio i'r Ariannin.

Ar y maes, cafwyd honiadau fod rhai gemau wedi eu trefnu a rhai timau wedi eu llwgrwobrwyo ac ni ddathlwyd rhyw lawer ar lwyddiant y tîm cartref tu allan i'r Ariannin.

Gadawodd Yr Alban am Yr Ariannin gyda miloedd o'r Tartan Army yn heidio i faes awyr Prestwick er mwyn ffarwelio â nhw wedi'r rheolwr, Ally McLeod, ddatgan fod ei dîm yn mynd i ennill y Gwpan.

Ond roedd y bencampwriaeth yn embaras llwyr i'r Albanwyr er iddynt drechu'r Iseldiroedd yn y gêm olaf o'r grŵp, wedi iddynt golli yn erbyn Peru a chael gêm gyfartal ag Iran.

Wedi'r grŵp agoriadol, aeth yr Iseldiroedd ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol gan orffen ar frig Grŵp Ac wedi trechu Awstria 5-1 a'r Eidal 2-1, a chan sicrhau gêm gyfartal 2-2 â'r deiliaid, Gorllewin yr Almaen.

Yr Ariannin a Brasil oedd yn brwydro i orffen ar frig yr Grŵp B ac roedd angen buddugoliaeth o bedwar gôl ar y tîm cartref yn erbyn Peru yn eu gêm olaf er mwyn sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Nid oedd yn broblem wrth i'r Archentwyr chwalu Peru 6-0, gyda Mario Kempes yn sgorio dwy.

Aeth Kempes ymlaen i rwydo dwy gôl arall yn y rownd derfynol wrth i'r Ariannin drechu'r Iseldiroedd 3-1 wedi amser ychwanegol.



chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy