Seland Newydd 29-32 De Affrica Mae pencampwyr y Byd De Affrica wedi sicrhau Pencampwriaeth y Tair Gwlad ar ôl trechu Seland Newydd o 32-29 yn Hamilton. Dyma'r tro cyntaf ers 2004 i Springboks sicrhau'r Bencampwriaeth gyda chiciau llwyddiannus Morne Steyn a Francois Steyn yn profi'n allweddol. Croesodd Jean de Villiers i ychwanegu at gais Fourie du Preez yn yr hanner cyntaf i ymestyn mantais De Affrica. Fe darodd y Crysau Duon yn ôl gyda Sitiveni Sivivatu yn croesi am gais ond roedd De Affrica wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.
 |